Canfod trysorau o'r Oes Efydd a Rhufeinig yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae trysorau, rhai yn dyddio nôl bron i 3,000 o flynyddoedd, wedi eu canfod mewn safleoedd yng nghanolbarth a de Cymru.
Ymhlith yr arteffactau sydd wedi'u canfod gan aelodau'r cyhoedd roedd creiriau o'r Oes Efydd ym Mhowys, a cheiniogau Rhufeinig ym Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.
Cafodd eitemau o'r Oesoedd Canol hefyd eu darganfod ar wahanol safleoedd ym Mhowys a Bro Morgannwg.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru fod darganfyddiad y celciau o'r Oes Efydd, sy'n dyddio nôl i'r 9fed ganrif CC, yn "ganfyddiad o bwys".
Roedd un casgliad o'r Oes Efydd gafodd ei ganfod yn Llanfrynach, Powys yn 2016 yn cynnwys offer, arfau ac addurniadau efydd, a rhan o freichled aur.
Y llynedd mewn cymuned arall ym Mhowys - Llanfihangel Cwmdu - cafwyd hyd i weddillion dwy fwyell.
"Rydym yn llawn cyffro wrth gaffael trysorau mor bwysig i Frycheiniog diolch i gymorth Hel Trysor; Hel Straeon a HLF," meddai Nigel Blackmore, Uwch Guradur Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog.
"Gydag Amgueddfa Brycheiniog ar fin ailagor yn adeilad newydd Cyngor Sir Powys, y Gaer yma yn Aberhonddu, bydd gennym leoliad rhagorol i arddangos y canfyddiadau pwysig yma gan ddatgelwyr metel, i bobl yr ardal ac i ymwelwyr."
Ymhlith y pum darn arian gafodd eu canfod yn y Faenor, Merthyr Tudful roedd ceiniogau o'r Weriniaeth Rufeinig, gan gynnwys y cynharaf oedd yn dyddio i'r flwyddyn 80 CC ac eraill gafodd eu bathu gan y cadfridog Mark Anthony tua 40 mlynedd yn ddiweddarach.
Bydd y rheiny nawr yn cael eu harddangos yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.
"Y ceiniogau yw'r canfyddiad cyntaf o Ferthyr Tudful i gael ei ddyfarnu'n drysor, a'r trysor cyntaf i gael ei gaffael gan yr amgueddfa, ac mae hyn yn destun dathlu," meddai Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Cafwyd hyd i gasgliad llawer mwy o geiniogau efydd Rhufeinig yn Llancarfan, Bro Morgannwg - 118 i fod yn union - a hynny yn agos i safle celc tebyg gafodd ei ganfod yn 1957.
Ymhlith y creiriau o'r Oesoedd Canol sydd hefyd wedi'u canfod yn y sir dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae bachyn gwisg arian o'r 16eg ganrif, a modrwy bys arian gilt a gwniadur arian o ddiwedd yr Oesoedd Canol.
Bydd y gwrthrychau'n cael eu cadw gan Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa'r Bont-faen a'r Ardal, a hynny fel rhan o brosiect Hel Trysor; Hel Straeon, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd13 Mai 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2015