Gemwaith ac arian hanesyddol o ogledd Cymru yn drysor

  • Cyhoeddwyd
Croes eurwaith arian ganoloesol o bentref CwmFfynhonnell y llun, Robin Maggs / Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y groes eurwaith arian ganoloesol o bentref Cwm

Mae gemwaith a darnau arian hanesyddol a ddaeth i'r fei yng ngogledd ddwyrain Cymru wedi cael eu dyfarnu'n drysor.

Cadarnhaodd Joanne Lees, dirprwy grwner yr ardal, bod 10 darganfyddiad yn dyddio o oes y Rhufeiniaid i'r canol oesoedd a thu hwnt, yn drysor.

Daeth y rhan fwyaf i'r golwg wrth ddefnyddio peiriannau darganfod metel - un o'r achosion hynny pan oedd y perchennog yn defnyddio'r offer am y tro cyntaf.

Mae rhai o amgueddfeydd yr ardal eisoes wedi dweud eu bod am brynu'r rhan fwyaf o'r darnau er mwyn eu cadw'n lleol, ond ni roddwyd amcangyfrif o'u gwerth.

Roedd Aled Roberts. a ddaeth o hyd i 15 o ddarnau arian Rhufeinig ar dir ger Llanynys, yn bresennol yn y cwest yn Rhuthun ddydd Iau, i glywed y dyfarniad.

Roedd allan am y tro cyntaf hefo clwb darganfod metel ym mis Medi 2016 pan ddaeth o hyd i'r darnau, sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif.

Daeth heliwr trysor arall, George Borrill, o hyd i groes eurwaith arian ganoloesol ym mhentref Cwm ger Dyserth, ym mis Awst 2016. Cred arbenigwyr ei bod yn dyddio o tua 1450 i 1500.

Y darganfyddiadau eraill:

  • Casgliad o geiniogau Rhufeinig o Sesswick, Wrecsam;

  • Modrwy fys arian ganoloesol o ardal yr Orsedd, Wrecsam;

  • Broetsh gylchog arian ganoloesol o Holt, Wrecsam;

  • Broetsh gylchog arian ganoloesol o Gilcain, Sir y Fflint;

  • Rhan o gelc o geiniogau canoloesol o Bronington, Wrecsam;

  • Modrwy fys aur ôl-ganoloesol o Abergele, Conwy;

  • Matrics sêl arian ôl-ganoloesol o Lanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych;

  • Modrwy fys aur ôl-ganoloesol o Esclusham, Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o ddarnau arian a ddaeth i'r golwg yn Bronington ger Wrecsam

Darganfuwyd casgliad o chwe cheiniog arian Rufeinig o'r ail ganrif, yn cynnwys darnau o oes yr Ymerawdwr Hadrian (OC 117-38), yn Sesswick, gan Andy Jones ar ddechrau 2018 a chafodd modrwy arian o ardal yr Orsedd, ger Wrecsam ei darganfod gan Ray Mitchell ym Mehefin 2014.

Dywed arbenigwyr o Amgueddfa Cymru mai modrwy ffyddlondeb yw hon, sy'n dyddio o ddiwedd y 14eg neu ddechrau'r 15fed ganrif.

Mae dwy law wedi'u plethu arni, yn arwydd o gyfeillgarwch neu gariad.

Darganfuwyd celc o geiniogau canoloesol gan Cliff Massey a Peter Walpole yn 2017 ger Bronington, Wrecsam.

Mae'n cynnwys un geiniog aur a 10 ceiniog arian o gyfnodau Edward I-III (1272-1377), a Harri V-VI (1413-61).

Arwydd o steil

Yn ôl Edward Besly, cymrawd ymchwil anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru, mae'n debyg i'r ceiniogau gael eu gadael gyda'i gilydd tua diwedd y 1460au, o gwmpas cyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Mae'r casgliad hwn o geiniogau yn ychwanegiad at gelc mwy o geiniogau a modrwy a ddarganfuwyd gan yr un bobl rhwng 2012 a 2014, ac sydd bellach yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Wrecsam.

Daeth modrwy ffyddlondeb aur arall i'r fei yn Abergele ym mis Ebrill 2016. Yn ôl Dr Mark Redknap o Amgueddfa Cymru, mae hon yn dyddio o'r 17eg neu ddechrau'r 18fed ganrif.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r casgliad a ddarganfuwyd yn ardal Llanynys gan Aled Roberts

Wrth sôn am yr wyth darganfyddiad canoloesol ac ôl-ganoloesol, dywedodd Dr Redknap: "Mae rhai o'r trysorau hyn, fel y broetshys canoloesol, yn arwydd o steil, tra mae eitemau fel y modrwyau ffyddlondeb yn arwydd o deimladau personol dyfnion.

"Mae'r crogdlws arian o'r Cwm, Sir Ddinbych yn adlewyrchiad o'r galw am eitemau defosiynol bychan tua diwedd y canol oesoedd.

"Maent oll yn rhoi gwybodaeth newydd i ni ar eu defnydd a'u poblogrwydd yng Nghymru'r gorffennol."

Y bwriad yw y bydd nifer o'r gwrthrychau'n cael eu prynu gyda chymorth grant gan brosiect Hel Trysor; Hel Straeon, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi iddynt gael eu prisio'n annibynnol.

Bydd pob un ond un yn cael eu caffael gan amgueddfeydd achrededig yn y gogledd ddwyrain.

I gael eu hystyried yn drysor, mae'n rhaid i eitemau aur ac arian gynnwys o leiaf 10% o fetel gwerthfawr ac mae'n rhaid iddynt fod dros 300 mlwydd oed.