Betsi Cadwaladr: Bwrw mlaen â newid i shifftiau nyrsys

  • Cyhoeddwyd
nyrs

Mae penaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan y lach am fwrw 'mlaen gyda newidiadau i shifftiau nyrsys, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn.

O dan y patrymau newydd bydd nyrsys yn gorfod cymryd hanner awr ychwanegol o doriad heb dâl yn ystod pob shifft.

Trefnwyd protest gan staff pan gyhoeddwyd y syniad ym mis Awst, ac arwyddodd dros 6,000 o bobl ddwy ddeiseb yn gwrthwynebu.

Rhybuddiodd gwleidyddion ac arweinwyr undeb y byddai'n peryglu ewyllys da, ond mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod am fwrw 'mlaen â'r cynllun er mwyn ceisio gwneud arbedion o dros £500,000.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, i ymyrryd a gwyrdroi'r penderfyniad.

'Gwrthwynebiad llethol'

Yn ôl Llyr Gruffydd AC, byddai'r penderfyniad yn arbed tua £25,000 y mis - "2% o'r £1.1miliwn sy'n cael ei wario bob mis ar nyrsus asiantaethau."

"Am yr arbediad pitw yma, mae'n ymddangos fod y bwrdd yn barod i ddinistrio ewyllys da staff nyrsio sy'n cadw'r Gwasanaeth Iechyd i fynd," meddai.

"Tra bod hyn yn digwydd, mae'r bwrdd yn hapus i dalu dwsinau o ymgynghorwyr i'w cynghori ar ffyrdd o wneud arbedion. Mae un yn cael ei dalu £2,000 y dydd - neu £40,000 y mis am y naw mis nesaf. Mae hynny bron yn ddwbl yr hyn gaiff ei arbed wrth ymestyn y shifftiau.

"Mae gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, reolaeth uniongyrchol dros Betsi. Mae'r bwrdd wedi bod dan reolaeth y llywodraeth am fwy na phedair blynedd ar ôl cael ei roi dan fesurau arbennig. Mae ganddo'r gallu i newid hyn."

Mae nyrsys wedi dweud eu bod yn poeni y bydd y drefn newydd yn golygu mwy o gostau teithio a gofal plant.

'Arbed £500,000'

Mewn ymateb, dywedodd y bwrdd iechyd y byddai patrymau gwaith hyblyg ar gael i'r staff.

Ychwanegodd y byddai safoni'r patrymau shifft, y toriadau, a chyfnodau trosglwyddo gwybodaeth i'r shifft nesaf, o fudd i'r staff.

"Ar hyn o bryd mae 'na 100 o wahanol batrymau shifft ar draws y bwrdd iechyd, a gwahaniaethau mewn seibiau o ddim seibiant o gwbl i seibiant o awr a chwarter.

"Yn ogystal â chyflwyno system fwy cyson ar draws y bwrdd am y tro cyntaf, rydym yn amcangyfrif y byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar nyrsys o asiantaethau, ac yn gwneud arbedion o £527,000."