Apêl côr meibion am aelodau iau i barhau â'r traddodiad
- Cyhoeddwyd
Mae angen denu mwy o bobl ifanc i gorau meibion Cymru os ydy'r traddodiad canu corawl am barhau, yn ôl arweinydd un o gorau meibion hynaf Cymru.
Dywedodd arweinydd Côr Meibion Trelawnyd, Ann Atkinson, ei bod yn "tybio fod lot o gorau meibion yn gweld hi'n anoddach denu" aelodau newydd.
"Dan ni'n mynd o 89 [oed] lawr i 18 ond mae canran yr oedran yn hŷn", meddai.
Cafodd taith y côr i ganfod aelodau newydd ei dogfennu mewn rhaglen ar S4C nos Sul.
Ar hyn o bryd, mae 70 o aelodau yn y côr, a gafodd ei ffurfio yn 1933.
"Dan ni'n dueddol o gael dynion sydd wedi ymddeol, sy'n berffaith iawn, ond byddai'n braf cael cnewyllyn yn eu 30au ac yn eu 20au," meddai Ms Atkinson.
"Ar hyn o bryd mae pethau yn weddol a gobeithio fe gawn ni fwy."
Wrth recordio eu CD newydd - y cyntaf ers 10 mlynedd - dywedodd aelod hynaf y côr, Ednyfed Williams fod denu dynion ifanc yn anodd.
"Mae gen i feibion adref a lleisiau bariton da ganddyn nhw - dydyn nhw ddim eisiau gwybod," meddai. "Groups a phethau ydy eu bywyd nhw.
"A lle mae yna gorau meibion maen nhw [pobl ifanc] i gyd yn y coleg, yn gwneud yn dda ac yn ddisglair.
"Dydyn nhw ddim yn mynd i gymysgu efo hen fois fel ni - dydy o ddim yn naturiol."
Ceisio newid ac addasu
Ond tra bod Mr Williams yn gweld y broblem mae'n mynnu fod Côr Trelawnyd yn ceisio newid ac addasu.
"Mae'r arweinydd presennol yn newid natur y caneuon, pethau poblogaidd a thrio tynnu'r rhai iau i mewn," meddai.
"Pan nes i ddechrau roedd y rhan fwyaf yn Gymry Cymraeg ond erbyn hyn dim ond dau sy'n wreiddiol o Drelawnyd."
Mae rhaglen 'Drych: Y Cor' ar wefan S4C Clic, dolen allanol.