Rygbi Merched: Sbaen 29-5 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carys Phillips yn chwarae am y 50fed tro ddydd SulFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Carys Phillips yn chwarae am y 50fed tro ddydd Sul

Enillodd Carys Phillips ei hanner canfed cap ddydd Sul mewn gêm yn erbyn Sbaen ond y tîm cartref a orfu o 29 i 5 ym Madrid.

Cafodd Carys, a fydd yn 27 yn ystod y mis, ei chap cyntaf fel eilydd yn y gêm yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013.

Ar hanner amser roedd Sbaen ar y blaen o 12-0 wedi ceisiau gan Olivia Fresneda a Beatriz Dominguez ac yn ddiweddarach fe groesodd Lourdes Alameda, Anne Fernandez ac Anna Puig.

Ond roedd yna gais hwyr gan Alecs Donovan cyn diwedd y gêm i Gymru.

Roedd nifer o dîm Cymru yn chwarae am y tro cyntaf - sef Angharad de Smet a Caitlin Lewis, Megan Webb, Gwenllian Jenkins, Georgia Evans ac Abbie Fleming ac ar y fainc am y tro cyntaf yr oedd Robyn Lock a Niamh Terry.

Nesaf bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn Nulyn ar 10 Tachwedd.

Gemau nesaf yr hydref

  • Iwerddon v Cymru - Dulyn, 10 Tachwedd

  • Yr Alban v Cymru - Glasgow, 17 Tachwedd

  • Crawshay's v Cymru - Glyn Ebwy, 23 Tachwedd

  • Cymru v Barbariaid - Caerdydd, 30 Tachwedd