Cannoedd yn gwrthwynebu 'ail gylch haearn' Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
cerflun FflintFfynhonnell y llun, Rich White
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd wedi arwyddo'r ddeiseb yn gwrthwynebu adeiladu'r cerflun newydd

Mae cannoedd o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau newydd i adeiladu cerflun ger Castell y Fflint.

Yn 2017 cafodd cynllun i adeiladu 'cylch haearn' ger y castell ei dynnu'n ôl ar ôl cwynion bod y cerflun yn symbol o orthrwm Lloegr dros Gymru.

Mae'r ddeiseb yn honni bydd y dyluniad newydd "yn cynrychioli'r un peth a'r cerflun cyntaf cafodd ei gynnig".

Dywedodd yr artist, Rich White, o Fryste, mai ei fwriad ydy "dathlu'r gweithwyr a'r crefftwyr a gododd Castell y Fflint".

Yr wythnos ddiwethaf daeth cynllun am gerflun naw metr o daldra ar y safle i'r amlwg, yn cymryd lle cynllun 2017.

Ond mae'r cynllun newydd wedi hollti barn wrth i gannoedd o bobl arwyddo deiseb ar-lein yn dweud bod y dyluniad newydd "yn cynrychioli'r un peth a'r cerflun cyntaf".

"Dylai'r cynllun am y cerflun hwn a'r sarhad i Gymru a'i hanes ddim mynd yn ei flaen, a dylai yn bendant ddim cael ei leoli ger y castell, symbol o ryfel a gorchfygiad."

Ffynhonnell y llun, Rich White
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun yr artist Rich White ar gyfer y cerflun

Castell y Fflint oedd un o'r cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru gan Edward I, a ddechreuodd ei adeiladu yn 1277.

Rich White, o Fryste, dyluniodd y cerflun newydd ar ôl ennill cytundeb gwerth £62,500.

Dywedodd byddai ei ddyluniad yn dathlu bywydau'r bobl adeiladodd y castell: "Fy mwriad gyda'r cerflun yw dathlu'r gweithwyr a'r crefftwyr a gododd Castell y Fflint - boed hynny'n wirfoddol, neu gael eu gorfodi i wneud - ac a fu'n gyfrifol felly am greu tre'r Fflint."

"Bydd y strwythur yn adlewyrchu maint a ffurf y castell, a bydd hefyd yn ail-greu'r profiad o sefyll y tu mewn i'r tyrau."

'Ymgyrch wallgof'

Cafodd y ddeiseb ei lansio gan dudalen 'Welsh History Memes for Independence Seeking Teens,' sydd wedi apelio ar gyfryngau cymdeithasol ar i bobl gefnogi'r ddeiseb.

Ychwanegodd datganiad ar eu tudalen: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru stopio'r ymgyrch wallgof yma i ledaenu concwest Lloegr o Gymru yn lle canolbwyntio ar ddysgu hanes Cymru.

"Mae'r cerflun yn mynd i gostio tua £62,500 i drethdalwyr Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r arian mewn ffordd fwy ystyriol, yn hytrach na'i wario ar gylch enfawr ger y castell."