Datgelu cynllun i gymryd lle'r Cylch Haearn

  • Cyhoeddwyd
cerflun FflintFfynhonnell y llun, Rich White
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun yr artist Rich White ar gyfer y cerflun

Gallai cerflun "eiconig" o gyfres o dyrau gael ei greu ger Castell y Fflint mewn ymgais i adfywio'r ardal.

Syniad cerflunydd o Fryste, Rich White, yw'r cerflun naw metr o uchder wedi iddo gael ei gyhoeddi fel enillydd cytundeb gwerth £62,500 i ddylunio a chynhyrchu'r gwaith.

Daw'r cyhoeddiad rhyw ddwy flynedd wedi i gynllun dadleuol y Cylch Haearn ar yr un safle gael ei ddileu gan Lywodraeth Cymru wedi i nifer wrthwynebu'r cynllun gan ddweud ei fod yn arwydd o ormesu pobl Cymru.

Fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint a chwmni ymgynghori celfyddydau Addo ddechrau chwilio am gynllun amgen, ac ym mis Mawrth fe wnaethon nhw ddatgelu rhestr fer o bum artist.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn costio £395,000

Bydd cynllun Mr White yn cynnwys 300 o golofnau wedi'u trefnu mewn sgwâr sy'n mesur 12 metr.

Dywedodd mai ei fwriad yw y bydd pobl yn gallu sefyll y tu mewn i'r gwaith celf fydd ar lannau Afon Dyfrdwy.

"Fy mwriad gyda'r cerflun yw dathlu'r gweithwyr a'r crefftwyr a gododd Castell y Fflint - boed hynny'n wirfoddol, neu gael eu gorfodi i wneud - ac a fu'n gyfrifol felly am greu tre'r Fflint," meddai.

"Bydd y strwythur yn adlewyrchu maint a ffurf y castell, a bydd hefyd yn ail-greu'r profiad o sefyll y tu mewn i'r tyrau."

Castell y Fflint oedd un o'r rhai cyntaf i gael eu codi yng Nghymru gan Edward I, ac fe ddechreuodd gael ei adeiladu yn 1277.

Ffynhonnell y llun, Rich White
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd i ymwelwyr sefyll y tu mewn i'r cylch tyrrau

Roedd gwrthwynebiad chwyrn i gynllun gwreiddiol y Cylch Haearn gan rai gan fod "cylch haearn" hefyd yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu codi gan Loegr fel rhan o'u concwest o Gymru.

Fe wnaeth ysgrifennydd yr economi, Ken Skates, gydnabod bod y gwaith wedi "rhannu barn" a'i fod wedi "penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r dyluniad".

Ond ychwanegodd y byddai buddsoddiad ehangach i Gastell y Fflint yn parhau.

Ym mis Ebrill fe gafodd ceisiadau'r pum artist oedd ar y rhestr fer am y cynllun newydd eu harddangos yn Llyfrgell y Fflint fel bod pobl leol yn gallu ymateb.