Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Rhydaman

  • Cyhoeddwyd
Shane O'RourkeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Shane O'Rourke bod "cymaint o bobl yn ei garu"

Mae dyn 51 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall mewn tŷ yn Rhydaman.

Mae Kevin Fitzgerald wedi cael eu gyhuddo o lofruddio Shane O'Rourke mewn tŷ ar Ffordd y Gwynt.

Cafodd parafeddygon ac ambiwlans awyr eu galw i'r tŷ oddeutu 12.30 brynhawn Sadwrn ond roedd Mr O'Rourke eisoes wedi marw.

Bydd Mr Fitzgerald yn mynd o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Mawrth.

Brynhawn Llun fe gadarnhaodd yr heddlu fod dyn arall, a oedd wedi cael ei arestio'r un pryd, wedi cael ei ryddhau o'r ddalfa.