Tân gwyllt: Hwyl neu hunllef?
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfeydd tân gwyllt yn gallu bod yn achlysur i bobl fwynhau golygfeydd a lliwiau godidog.
Ond dydi adeg tân gwyllt, ac yn enwedig y sŵn sy'n dod gyda'r cyfnod, ddim yn un pleserus i bawb, yn arbennig i anifeiliaid.
Rhywun sydd yn pryderu am iechyd anifeiliaid oherwydd tân gwyllt yw Ffion Llŷr o Gaerdydd. Mae gan Ffion berthynas agos gyda'i chi Twts, ac mae hi'n pryderu amdani yn ystod yr adeg yma'r flwyddyn.
"Mae'n gyfnod anodd iawn i gŵn a chathod, a hefyd i'w perchnogion.
"Mae 'na gyfnod o ryw bythefnos - wythnos dwetha' i gyd ac wythnos yma - lle mae'n ci ni'n dangos arwyddion o fod yn hynod o stressed, yn ofidus iawn, ac mae hi'n gorfod cael rhywun gyda hi yn y tŷ drwy'r amser - a phan ti'n byw bywyd eitha' prysur mae hynny'n gallu bod yn anodd."
Mae Twts yn gi brid cymysg hanner Samoyed a hanner Chow chow, ac yn naw mlwydd oed, ac mae Ffion yn dweud bod straen cyfnod tân gwyllt yn amlwg arni.
"Mae hi'n dangos arwyddion bod hi wir ofn tân gwyllt.
Fel perchnogion mae'n gallu bod yn gyfnod anodd a stressful, achos hyd yn oed os ydyn ni yn y tŷ ac yn dilyn y canllawiau o bethau y dylen ni ei wneud i gymryd gofal ohoni, mae hi dal yn dangos arwyddion bod hi'n pryderu'n fawr.
"Sŵn y tân gwyllt sy'n achosi'r mwyaf o ofn iddi, ac mae hi'n ymwybodol iawn bod nhw 'di bod yn mynd bant bob amser o'r dydd - ar y stryd, mewn parc, gerddi pobl...
"Mae hi'n cychwyn pantio, mae hi'n crio a chyfarth ac ein dilyn ni o gwmpas y tŷ ac yn gwrthod ein gadael ni. Mae hi eisiau aros wrth ein hochr ni drwy'r nos, yn cuddio ac yn gwrthod mynd tu allan am dro. Hefyd mae hi'n yfed lot o ddŵr gan ei bod yn pantio gymaint."
Mae yna amcangyfrif fod tua 60% o gŵn a chathod yn dangos yr arwyddion yma, ac mae tân gwyllt hefyd yn effeithio'n ddrwg iawn ar anifeiliaid fferm ac adar.
Paratoi ymlaen llaw
Fel y dyweda Ffion, dydi hi ddim yn erbyn tân gwyllt yn llwyr, ond ei bod hi'n credu fod angen mwy o reolaeth ar pwy all eu defnyddio.
"Dydw i ddim yn anghytuno gyda chael arddangosfeydd cyhoeddus, dwi'n mwynhau mynd i weld tân gwyllt.
"O'n i'n gwybod nos Sadwrn fod yna arddangosfeydd yn yr Eglwys Newydd, Y Barri a Chaerffili, felly roedd modd paratoi gyda Twts o flaen llaw. Ond pan mae tân gwyllt yn mynd ffwrdd am 1 y bore mae'n anodd paratoi am hynny.
"Fel perchennog, beth fydde'n helpu yw os fydde archfarchnadoedd yn stopio gwerthu nhw i bobl sy'n gallu rhoi nhw ffwrdd unrhyw amser o'r dydd mewn llefydd cyhoeddus, a bod pobl yn mynd i fwynhau arddangosfa iawn - bydde hynny'n help enfawr wedyn achos bydde modd paratoi."
Hefyd o ddiddordeb: