Cyfarfod cyhoeddus i drafod achub adeiladau gwag Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â phroblemau adeiladau gweigion yng Nghaerfyrddin, yn ôl Cymdeithas Ddinesig y dref.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Fercher er mwyn trafod ffyrdd o achub nifer o adeiladau yno.
Yn ôl Huw Iorwerth, ysgrifennydd y gymdeithas, maen nhw'n ymwybodol fod nifer o adeiladau'r dref yn wag, neu'n debygol o ddod yn wag yn ystod y blynyddoedd nesaf.
"Ry'n ni'n meddwl y gallwn ni ddechrau rhyw fath o sgwrs, i weld a oes yna ddefnydd iddyn nhw yn y dyfodol," meddai.
"Yn sicr, ry'n ni'n poeni am gapeli gwag, am adeiladau cyhoeddus, rhai gan yr awdurdod lleol, ac wrth gwrs rhai o'r siopau mawrion sy'n dod yn wag."
Mewn rhai amgylchiadau, mae'n medru bod yn anodd dod o hyd i berchnogion adeiladau, yn ôl Mr Iorwerth.
Mae hen swyddfa'r post ar Heol Y Brenin yn wag ers sawl blwyddyn, ac mae'r hen dloty ar Heol Penlan bellach yn adeilad bregus.
Wedi ei godi yn yr 1830au ac yng nghanol protestiadau Merched Beca yn 1843, bu tân yn yr adeilad fis Mawrth y llynedd.
"Yn anffodus, llosgwyd yr adeilad a nawr mae'n adfail. Dyna enghraifft arbennig o dda o sut y dylid ffeindio dyfodol i adeilad eiconig," meddai Mr Iorwerth.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, maen nhw'n ceisio achub nifer o adeiladau gweigion, ond yn pwysleisio nad swyddogaeth un awdurdod yw hynny.
Yn 2016, fe brynodd y cyngor sir hen neuadd y dref - mae'r llawr gwaelod newydd agor yn fwyty.
"O'dd dim rhaid i ni brynu fe," medd y cynghorydd David Jenkins o fwrdd gweithredol y cyngor. "Bydde hi'n drueni gweld e'n mynd yn rhacs.
"Gymron ni risg, a dyma ni heddi' ac mae'r risg wedi bod yn werth ei gymryd, achos mae'n llwyddiant yng nghanol y dre 'ma."
Ond mae'r Cynghorydd Jenkins yn pwysleisio bod yr esgid yn gwasgu.
"Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni gael arian o rywle," meddai.
"Ni'n rhoi grantiau i bobl i ailadeiladu neu sefydlu busnesau yn yr adeiladau hyn, ond ellwn ni byth neud e wrth ein hunain."
O hen gapel i siop gamera
Enghraifft gadarnhaol, yn ôl y gymdeithas ddinesig, ydy hen gapel Zion yng Nghaerfyrddin.
Dyw'r drysau ddim ar agor ar y Sul bellach, ond maen nhw ar agor weddill yr wythnos gan fod siop gamera yno.
Roedd y perchennog, Mathew Whittal-Williams yn benderfynol o ddod o hyd i hen adeilad wrth chwilio am gartref newydd ar gyfer ei fusnes.
"Un o fanteision capeli ydy eu bod nhw'n tueddu i fod yng nghanol trefi," meddai.
"Dyna beth oedden ni ei angen, yn hytrach na bod ar ystâd ddiwydiannol y tu allan i'r dref... Byddwn ni'n gofalu ar ôl yr adeilad hwn am flynyddoedd i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013