Seiclwr oedrannus yn marw wedi gwrthdrawiad â char

  • Cyhoeddwyd
Jose Fernandez-CastroFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jose Fernandez-Castro wedi treulio degawdau yn gweithio fel prif gogydd yn nifer o fwytai Caerdydd

Mae seiclwr oedrannus o Ben-y-bont ar Ogwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char yn y dref fis diwethaf.

Bu farw Jose Fernandez-Castro yn Ysbyty Tywysoges Cymru ar 31 Hydref ar ôl cael ei gludo yno 11 diwrnod ynghynt yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad, oedd yn cynnwys car Citroen C2 llwyd, ar Heol Tremains tua 13:55 brynhawn Sul, 20 Hydref.

Dywedodd teulu Mr Fernandez-Castro ei fod yn "gymeriad serchog a lliwgar".

Yn ôl eu datganiad, fe gafodd ei eni yn Sbaen ond roedd wedi byw am bron 20 mlynedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl symud yno o Gaerdydd.

Dywed y teulu ei fod "wedi treulio 39 mlynedd yn brif gogydd rhai o fwytai mwyaf poblogaidd Caerdydd" cyn mwynhau garddio ar ôl ymddeol.

'Siarad plaen a direidi'

"Bydd yn cael ei gofio am ei siarad plaen, ei feddwl chwim a'i ddireidi, y cyfan yn ei acen Sbaenaidd gyda gogwydd Cymreig, oedd wastad yn gallu goleuo ystafell.

"Roedd yn weithiwr caled a di-lol oedd wastad yn datrys unrhyw broblemau."

Ychwanegodd y teulu bod ei farwolaeth yn gadael bwlch "amhosib i'w lenwi... o fewn cymuned oedd yn meddwl gymaint ohono â ninnau, boed yn ymarfer yn y pwll yn y bore, troeon hir ym Mhorthcawl ac Aberogwr neu'n rhannu peth o'i amser gyda rhywun oedd ei angen".

Mae'r heddlu'n gobeithio clywed gan unrhyw un oedd yn ardal Heol Tremains yn y cyfnod cyn y gwrthdrawiad ar y gyffordd â Stryd Minerva, neu sydd â lluniau ffôn neu dashcam all helpu'r ymchwiliad.

1900387960 yw cyfeirnod yr achos.