Teulu Sala am gael gwybod mwy am brofion carbon monocsid
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r pêl-droediwr Emiliano Sala wedi codi cwestiynau ynglŷn â'r profion gwreiddiol a wnaed ar ei gorff yn dilyn ei farwolaeth.
Maen nhw am wybod pam nad oedd y profion yn cynnwys rhai am garbon monocsid.
Ym mis Awst fe wnaeth Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) ddatgelu fod lefelau uchel - ac o bosib angheuol - o garbon monocsid wedi ei ganfod yn ei waed.
Bu farw Sala a'r peilot David Ibbotson mewn damwain awyren dros Fôr Urdd ar 21 Ionawr.
Roedd cyfreithiwr teulu Sala yn siarad ddydd Mercher mewn gwrandawiad rhagarweiniol i'w gwest yn Bournemouth.
Fe wnaeth Matthew Reeve ofyn i samplau gwaed gael eu cadw nes bod y cwest llawn wedi ei gwblhau.
Dywedodd fod yna gwestiynau i'w gofyn pam na chafodd y profion gwaed wnaeth ganfod lefelau o garbon monocsid eu cynnal tan Mehefin.
"Pam fod teimlad nad oedd angen y profion carbon monocsid yn Chwefror ond yn ddiweddarach fod angen hyn?" gofynnodd Mr Reeve.
Dywedodd y crwner y byddai'n gofyn i'r AAIB am adroddiad ychwanegol ar y mater, gan orchymyn y dylai'r samplau gwaed gael eu cadw nes bod y cwest wedi ei gwblhau.
Clywodd y cwest fod teulu Sala hefyd yn anhapus gyda phenderfyniad yr AAIB nad oedd angen casglu gweddillion yr awyren oddi ar wely'r môr.
Dywedodd Geraint Herbert ar ran yr AAIB: "Roeddem o'r farn y gallwn ddod i gasgliadau am faterion yn ymwneud â diogelwch [yr awyren] heb adfer gweddillion yr awyren, yn enwedig gan ein bod a gwybodaeth ar ôl ein hymweliad cynaf i weld y gweddillion."
Ond dywedodd Mr Reeve nad oedd ei gleientiaid yn cytuno â'r penderfyniad.
Adroddiad terfynol
Roedd Sala a'r peilot yn teithio o Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd ar 21 Ionawr wedi i'r pêl-droediwr ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd am £15m.
Cafwyd hyd i'w gorff yn ar wely'r môr ym mis Chwefror.
Dyw'r awdurdodau heb ddod o hyd i gorff Mr Ibbotson, 59, o Sir Lincoln.
Mae'r AAIB yn gobeithio cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ym mis Chwefror, ac mae'r cwest wedi ei ohirio tan fis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2019
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019