'Lefel uchel o garbon monocsid' yng nghorff Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr i'r ddamwain awyren wnaeth ladd Emiliano Sala a David Ibboston wedi datgelu bod lefelau uchel o garbon monocsid wedi'u canfod yng nghorff y pêl-droediwr.
Bu farw'r ddau wedi i'w hawyren blymio i'r môr wrth deithio rhwng Nantes a Chaerdydd ym mis Ionawr.
Fe gafodd gweddillion yr awyren yn ogystal â chorff Sala ei ddarganfod bythefnos yn ddiweddarach, ond hyd yn hyn dyw'r peilot Mr Ibbotson ddim wedi cael ei ganfod.
Cafodd corff Sala ei godi o wely'r môr cyn cael ei gludo yn ôl i'r Ariannin ar gyfer ei angladd.
Lefelau 'marwol' o'r nwy
Wrth rhoi'r diweddaraf am yr ymchwiliad, dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) bod lefelau uchel o garbon monocsid yng ngwaed Sala adeg ei farwolaeth.
Yn ôl yr adroddiad, roedd y lefelau'n ddigon uchel i achosi i'r person gael trawiad neu fynd yn anymwybodol.
Ychwanegodd y datganiad ei bod hi'n debygol y byddai Mr Ibbotson hefyd wedi dod i gyswllt â'r nwy.
Mae teulu Sala nawr wedi galw ar yr AAIB i godi gweddillion yr awyren er mwyn cynnal profion pellach.
Dywedodd yr AAIB fod gan Sala lefel carbon monocsid o 58% yn ei waed, a bod "lefel o dros 50% mewn person iach fel arfer yn cael ei ystyried yn farwol".
Mae'r ymchwiliad i'r ddamwain yn parhau, a does dim disgwyl adroddiad llawn tan y flwyddyn nesaf.
Dywedodd prif ymchwilydd yr AAIB, Geraint Herbert ddydd Mercher: "Mae symptomau ar lefelau o gyswllt isel [i garbon monocsid] yn gallu achosi blinder a phendro, ond wrth i lefel y cyswllt gynyddu mae'n gallu arwain at anymwybodolrwydd neu farwolaeth."
Ychwanegodd: "Mae'r ymchwiliad yn parhau i edrych ar ystod eang o feysydd yn ymwneud â'r ddamwain hon, gan gynnwys y ffyrdd posib y gallai carbon monocsid fynd i mewn i gaban awyren o'r fath."
Galw am ymchwiliad technegol
Roedd Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi ym mis Ionawr bod Sala wedi ymuno â nhw o Nantes y Ffrainc, a hynny am ffi o tua £15m.
Ond ers hynny mae'r ddau glwb wedi ffraeo dros bwy oedd yn berchen y chwaraewr mewn gwirionedd adeg ei farwolaeth.
Dywedodd cyfreithwyr ar ran teulu Sala bod canfyddiadau'r adroddiad "yn codi llawer o gwestiynau i'r teulu".
"Mae'r teulu yn credu bod angen ymchwiliad technegol o'r awyren," meddai Daniel Machover o gyfreithwyr Hickman & Rose.
"Mae angen i'r teulu a'r cyhoedd wybod sut fod carbon monocsid wedi gallu mynd i mewn i'r caban. Mae diogelwch awyr y dyfodol yn dibynnu ar wybod cymaint â phosib am hyn.
"Mae teulu Emiliano yn galw ar yr AAIB i godi gweddillion yr awyren heb unrhyw oedi pellach."
Awyren 'ddim yn briodol'
Mewn datganiad fe wnaeth CPD Dinas Caerdydd fynegi "pryder" fod yr awyren a ddefnyddiwyd i gludo Sala "ddim yn briodol".
"Rydym yn parhau i gredu mai'r rheiny oedd yn allweddol wrth drefnu'r defnydd ohoni ddylai gael eu dwyn i gyfrif am y drasiedi hon," meddai llefarydd.
Ym mis Mawrth fe wnaeth yr heddlu gadarnhau bod Caerdydd wedi gwneud cwyn swyddogol am ymddygiad Willie McKay, yr asiant oedd wedi trefnu'r awyren i gludo Sala ar y daith dyngedfennol.
Digwyddodd y ddamwain ar 21 Ionawr, ac fe wnaeth ymdrechion swyddogol i ddod o hyd i Emiliano Sala a David Ibbotson ddod i ben ar 24 Ionawr.
Ond ar ôl ymgyrch i gasglu arian fe gafodd cwch ei ariannu i barhau â'r chwilio, ac fe gafodd gweddillion yr awyren eu canfod ar 4 Chwefror cyn i gorff Sala gael ei godi dridiau'n ddiweddarach.
Yn ddiweddarach daeth i'r amlwg nad oedd trwydded hedfan Mr Ibbotson yn caniatáu iddo hedfan gyda'r nos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019