Codi'r to i barhau â gweledigaeth Dr Meredydd Evans
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyntaf mewn cyfres o gymanfaoedd gwerin anffurfiol yn cael ei gynnal ym Mhwllheli nos Iau, sy'n dathlu canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans.
I ddathlu'r garreg filltir mae Ymddiriedolaeth William Salesbury yn cynnal 11 o nosweithiau Codi'r To ar draws Cymru yn yr wythnosau nesaf.
Mae'r cymanfaoedd yn atgyfodi syniad a gododd yng nghanol y 1970au er mwyn codi arian i sefydlu a chynnal papur bro Caerdydd, Y Dinesydd.
Roedd y diweddar ymgyrchydd a chanwr gwerin, oedd yn cael ei adnabod fel Merêd, ymhlith y criw a drefnodd cyfres o gymanfaoedd tebyg.
'Yr elusen agosaf at ei galon'
Bydd cymanfaoedd yr wythnosau nesaf cefnogi Ymddiriedolaeth William Salesbury - cronfa sefydlodd Dr Evans er mwyn cynnig ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau gradd trwy'r Gymraeg gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r gronfa'n cynnig "cefnogaeth hael i nifer o fyfyrwyr yn flynyddol", ond yn ôl trefnwyr "mae angen ymdrechu'n gyson i sicrhau bod arian ar gael".
Ychwanegodd llefarydd bod Dr Evans wedi gweithio'n "ddiflino... i gefnogi cenhedlaeth newydd o bobl ifanc", a bod dathliadau'r canmlwyddiant yn ffordd ddelfrydol o gyfuno "ei hoffter o ganu gwerin" a chodi arian at yr "elusen oedd agosaf at ei galon".
Mae'r gymanfa olaf yn cael ei chynnal yn Llanegryn, man geni Merêd, ar ddiwrnod ei ben blwydd yn 100, sef 9 Rhagfyr.
Mae'r cymanfaoedd eraill yn Y Bala, Tanygrisiau, Dinbych, Caernarfon, Aberystwyth, Llanerfyl, Crymych, Pontypridd a Chasnewydd.
'Troi yn ei fedd'
Dywedodd Rocet Arwel Jones, trysorydd yr ymddiriedolaeth, a threfnydd cymanfa Aberystwyth: "Mae'r cof am Merêd yn fyw iawn ac yn annwyl iawn i lawer o bobl.
"Fo sefydlodd Ymddiriedolaeth William Salesbury ac fe weithiodd yn galed i godi arian iddi er mwyn cefnogi myfyrwyr ifanc oedd am ddilyn eu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Pan fo ymddiriedolaeth yn talu allan bob blwyddyn mae angen incwm cyson yn ogystal.
"Fydda Merêd yn troi yn ei fedd o feddwl bod hyn yn digwydd! Ond efallai y byddai'n maddau i ni gan ei fod yn codi arian at yr achos yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2015