Rhedwr wedi cael afiechyd ar ôl canfod trogod ar ei goesau

  • Cyhoeddwyd
Troed Huw Brassington yn yr EryriFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Huw Brassington ei frathu gan 128 o drogod ar ei goesau tra'n rhedeg

Mae rhedwr o Wynedd wedi datgelu ei fod wedi cael afiechyd ar ôl canfod 128 o drogod ar ei goesau tra'n ymarfer tuag at her ym mynyddoedd Eryri.

Ar ôl darganfod y trogod (ticks) wrth baratoi am Her 47 Copa Paddy Buckley dywedodd Huw Brassington ei fod wedi treulio oriau yn eu tynnu i ffwrdd.

Wythnosau'n ddiweddarach fe wnaeth y rhedwr ddarganfod bod ganddo afiechyd Lyme o ganlyniad i frathiadau'r trogod.

Dywedodd Mr Brassington: "Falle mai record yw hon. Fel arfer un neu ddau sy'n cael ei ffeindio."

Roedd Mr Brassington allan yn ymarfer am Her Paddy Buckley - ras 100 cilomedr dros 47 copa yng ngogledd Eryri - pan ddaliodd y trogod.

Ar ôl rhedeg rhwng llwybr Rhyd Ddu a'r Aran sylweddolodd ar drogen ar ei goes.

"I ddechrau nes i sylweddoli bod gen i un drogen. Ond y peth nesaf o'n i'n gwybod oedd gen i 128," meddai.

Yn ôl Mr Brassington, roedd e'n rhedeg yn y tywyllwch "trwy ardal oedd heb lwybr mewn gwair hir gyda lot o ddefaid o gwmpas".

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Brassington yn ymarfer ar gyfer Her Paddy Buckley yn Eryri pan ddaliodd e'r trogod

Ychwanegodd fod ei bartner rhedeg, Lowri Morgan, yn gwisgo llewys a throwsus hir, ac ni ddaliodd hi unrhyw drogod er eu bod wedi rhedeg gyda'i gilydd.

Dywedodd tad yng nghyfraith Mr Brassington, Twm Elias - sydd wedi gweithio yng Nghanolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri ers degawdau - nad yw e "byth wedi gweld y fath beth o'r blaen".

'Anodd' deall symptomau

Fe aeth Mr Brassington ymlaen i redeg her 47 Copa Eryri ar ôl darganfod brathiadau'r trogod.

"Ar ôl rhedeg y 100 cilomedr a mwy fe wnaeth fy nghoesau chwyddo fyny'n ddifrifol," meddai.

Ond oherwydd bod symptomau o chwyddo yn digwydd yn aml ar ôl rhedeg ras o'r fath bellter, "roedd yn anodd gwybod os oedd rhywbeth yn bod neu ddim".

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Roedd criw yn ffilmio Huw Brassington (dde) wrth redeg Her Paddy Buckley ar gyfer cyfres S4C '47 Copa'

"Ges i X-Ray ar fy nhroed, ond dim esgyrn 'di torri oedd y broblem, ond y clefyd Lyme," meddai.

Cafodd gwrs o wrthfiotigau yn syth am chwe wythnos er mwyn trin y clefyd.

Cynefin cymwys i drogod

Dywedodd Dr Robert Smith, arweinydd Milheintiau a Heintiau Gastroberfeddol Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC): "Mae Eryri nid yn unig yn dirwedd hyfryd i ni bobl ei hedmygu a'i mwynhau, mae'r ehangdir mawr o rostir agored sy'n cynnwys glaswellt hir a rhedyn yn gynefin sy'n addas i gynnal poblogaeth fawr o drogod ar draws y rhanbarth.

"Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o unrhyw gynnydd anarferol yn nifer y bobl sy'n nodi brathiadau gan drogod ac nid ydym wedi gweld unrhyw gynnydd anarferol yn nifer yr achosion o glefyd Lyme a adroddwyd i ni."

Er hyn, dywedodd ICC rhaid bod "yn ymwybodol o'r risgiau wrth ymweld ag ardaloedd lle ceir trogod a chymryd rhagofalon synhwyrol".

Er mwyn osgoi brathiadau trogod gallwch:

  • Gorchuddio croen agored drwy wisgo dillad priodol fel crysau llewys hir a throwsus hir;

  • Gwisgo dillad lliw golau i helpu sylwi ar unrhyw drogod;

  • Cadw at lwybrau troed ac osgoi cerdded drwy ardaloedd o borfa hir.

Bydd cyfres newydd '47 Copa' - sy'n dilyn Mr Brassington - yn dechrau ar S4C nos Fercher am 21:30.