Pêl-droedwyr Cymru i gael Canolfan Rhagoriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru am greu Canolfan Rhagoriaeth ar safle Gwesty'r Fro ym Mro Morgannwg.
Fe fydd y lleoliad hefyd yn gartref newydd i bencadlys y gymdeithas wrth iddyn nhw symud o Gaerdydd.
Ar hyn o bryd mae'r cyfleusterau yn cael eu defnyddio gan dîm rygbi rhanbarthol y Gleision, a bydd y newidiadau i'r cyfleusterau yn cymryd hyd at wyth mis.
Bydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn parhau fel tenant ar y safle, ac yn parhau i hyfforddi yno.
Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru symud i'r safle erbyn haf 2020.
Dywedodd prif weithredwr y gymdeithas, Jonathan Ford: "Mae nifer gweithwyr y gymdeithas wedi cynyddu er mwyn cwrdd ag ein hanghenion cynyddol.
"Rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â'r datblygiadau o ran ein staff, y garfan genedlaethol a'r hyfforddwyr."