Cyhoeddi enw wedi marwolaeth beiciwr modur ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Dan Orlandea

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw dydd Sul ar ôl gwrthdrawiad beic modur ym Mhowys.

Bu farw Dan Orlandea, 52, o Gaerffili, wedi'r digwyddiad ar yr A4215 rhwng Libanus a Defynnog.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo: "Roedd Dan yn bartner a thad gofalgar, cariadus a ffyddlon."

Yn ôl ei deulu: "Gweithiodd i Wasanaeth Ambiwlans y De Orllewin fel cynorthwywr gofal argyfwng, ac roedd e'n hyfforddi i fod yn barafeddyg.

"Gwirfoddolodd fel ymatebwr cyntaf ei ardal leol, a gwirfoddolodd yn aml gyda Blood Bikes Wales.

"Roedd Dan yn caru bod gyda'i deulu a threulio gymaint o amser a'r oedd yn gallu yn gwneud gweithgareddau chwaraeon gyda'i ferch."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar i unrhyw un a welodd y cerbydau cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.