Nifer tanau gwair yn dyblu wedi tywydd poeth y llynedd
- Cyhoeddwyd
Fe ddyblodd nifer y tanau gwair a thanau mynydd y llynedd o ganlyniad cyfnod "hir, heb ei debyg" o dywydd poeth, yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Cafodd awdurdodau tân Cymru alwadau i ddelio â 4,015 o danau rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.
Dywedodd arweinydd ymgyrch Cymru gyfan i geisio atal tanau o'r fath bod mwy o bobl yn yr awyr agored yn ystod "tywydd unigryw", gan arwain at drafferthion fel barbeciws heb eu diffodd yn briodol.
Roedd yna gynnydd sylweddol hefyd yn nifer y tanau gafodd eu cynnau'n fwriadol.
Mae'r ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi yn taflu goleuni ar yr heriau y bu'n rhaid i awdurdodau tân ac heddlu Cymru wynebu'r llynedd.
Ffactorau amhosib i'w rheoli
Cafodd 2,612 o danau ag elfen fwriadol eu cofnodi yn 2015-16 cyn sefydlu Ymgyrch Dawns Glaw, lle mae gwasanaethau tân a heddluoedd Cymru'n codi ymwybyddiaeth o fewn ysgolion a chymunedau.
Yn ôl cadeirydd yr ymgyrch, Mydrian Harries, fe gyfrannodd at ostyngiad yn nifer yr achosion i 1,627 yn 2017-18.
Ond fe gododd eto yn 2018-19 - i 2,850.
"Mae'r ffigyrau yma'n dangos yn glir - serch ewyllys, penderfynoldeb a chydweithio tasglu llwyddiannus eithriadol, gall ffactorau amhosib eu rheoli fel y tywydd effeithio'n sylweddol ar ein llwyddiant," meddai Mr Harries.
O gymharu ystadegau 2018-19 â'r un cyfnod yn y 12 mis blaenorol, fe ymatebodd y gwasanaethau brys i 230% yn fwy o danau gwair bwriadol ym mis Mehefin, 739% yn fwy ym mis Gorffennaf, 198% yn fwy ym mis Awst, 167% yn fwy ym mis Medi a 114% yn fwy ym mis Hydref.
"Mewn tywydd poeth a sych heb ei debyg am gyfnod mor hir, mae glaswellt a llystyfiant yn gallu tanio ac yn lledu'n gyflym i greu tanau mwy fyth sydd wedyn yn her sylweddol i'r gwasanaethau tân ac achub," meddai.
"O'n profiad hefyd, mae mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored yn ystod tywydd o'r fath, sydd hefyd yn cynyddu'r risg o danau'n cynnau o farbiciws wedi'u taflu a deunyddiau ysmygu, er enghraifft."
Codi ymwybyddiaeth 'yn gweithio'
Tra'n dweud bod yr ystadegau diweddaraf yn "siomedig", dywedodd mai'r tywydd oedd "y ffactor mwyaf" ond bod hynny ddim yn tynnu oddi ar waith Ymgyrch Dawns Glaw, sydd yn parhau i gynyddu'r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth.
Dywedodd Mr Harries: "Mae hanes yn dangos bod siarad gyda phobl ifanc a chamau wedi eu targedu, patrolau sy'n amlwg yn weledol mewn ardaloedd bregus, addysgu a marchnata cyngor diogelwch - oll yn gweithio.
"Gan adeiladu ar hynny, rydym wedi canolbwyntio ar y gymuned amaeth i addysgu a hysbysu ymhellach rheiny sy'n gyfrifol am gynnau tanau i reoli tir mewn modd diogel a dan reolaeth."
O'r 70% o'r holl danau a gafodd eu cynnal yn fwriadol, roedd 46% ohonyn nhw ym mis Gorffennaf 2018, oedd yn naw gwaith y nifer yng Ngorffennaf 2017.
Mae data'r Swyddfa Dywydd yn dangos fod yna tua 40% yn fwy o oriau o heulwen yng Ngorffennaf 2018 a tua hanner y glaw a gofnodwyd yng Ngorffennaf 2017.
Yn un o'r achosion, bu'n rhaid gwagio 15 o gartrefi wrth i griwiau tân ddelio â thân mynydd milltir o hyd ar Fynydd Cilgwyn yng Ngharmel, ger Caernarfon.
Fe barodd un o'r tanau mwyaf yng Nghymru, ar Fynydd Twmbarlwm yng Nghaerffili, am dros bythefnos, ac fe barodd tân yn Llantysilio, Sir Ddinbych am 40 o ddiwrnodau.
Roedd 52% o'r tanau gwair yn 2018-19 yn ne Cymru, 32% yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru a 16% yn y gogledd.
Cafodd dau berson anafiadau. Does dim marwolaeth wedi bod o ganlyniad tân gwair yng Nghymru ers 2007-08.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018