Cynnydd aruthrol mewn tanau gwair yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Betws-y-Coed fireFfynhonnell y llun, Gary Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae tanau gwair, fel hwn ym Metws-y-Coed, yn ymledu llawer cynt mewn tywydd sych

Pobl yn cynnau tân yn fwriadol sy'n gyfrifol am gynnydd o 75% mewn tanau gwair yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe wnaeth 2,850 o danau gwair gynnau rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 o gymharu â 1,627 dros y 12 mis blaenorol.

Mae'r ffigyrau'n "siomedig iawn" yn ôl penaethiaid y Gwasanaeth Tân, ac maen nhw'n credu fod haf poeth a sych y llynedd yn gyfrifol.

Mae'r gwasanaethau tân yng Nghymru wedi datblygu rhaglen addysgol mewn ymgais i daclo'r broblem, gan arwain at 60,000 o gyflwyniadau i ddisgyblion ysgol.

'Cyfle i losgi'

Cafodd Ymgyrch Dawns Glaw ei sefydlu yn 2016 i fynd i'r afael â thanau gwair gafodd eu cynnau'n fwriadol. Roedd y tri gwasanaeth tân yng Nghymru ac asiantaethau eraill yn gyfrifol amdano.

Dywedodd cadeirydd yr Ymgyrch, Mydrian Harries: "Yn anffodus dros y flwyddyn ddiwethaf ry'n ni wedi gweld y cynnydd yna, ac yn credu mai'r tywydd poeth ym Mehefin, Gorffennaf ac Awst oedd yn bennaf gyfrifol.

"Pan mae'r tywydd yn sych, mae unrhyw dân sy'n cynnau yn ymledu'n gyflym.

"Yn anffodus hefyd mae yna garfan allan yna sy'n gweld hynny fel cyfle i losgi."

Disgrifiad,

Tanau gwair bwriadol: Tywydd poeth yn ffactor

Mae gan dirfeddianwyr a ffermwyr hawl i losgi deunydd dan reolaeth ar eu tir rhwng Hydref a Mawrth, ond er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid iddyn nhw gael cynllun i gynnau a rheoli'r tân.

Mae unrhyw un sy'n gwneud hynny yn ystod misoedd eraill yn cyflawni trosedd drwy gynnau tân yn fwriadol.

Dywedodd Mr Harries fod oddeutu 50% o'r tanau gwair y llynedd wedi eu cofrestru fel rhai bwriadol.

"Er bod yr ystedagu yma yn siomedig iawn, ni ddylai hynny dynnu oddi wrth llwyddiant Ymgyrch Dawns Glaw ar y cyfan."

Mae swyddogion tân hefyd yn ceisio taclo taflu sbwriel a thanau sbwriel yng nghefn gwlad, gan y gall y rheini ledu i dir agored gan arwain at danau anferth.