Galwad i daclo trais yn erbyn athrawon
- Cyhoeddwyd
Bydd cynhadledd addysg yn clywed yn ddiweddarach y dylai posteri gael eu harddangos mewn ysgolion yn rhybuddio yn erbyn trais neu ymddygiad bygythiol tuag at staff.
Mae cynnig i gynhadledd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) yn galw am godi posteri mewn derbynfeydd, tebyg i'r rhai a ddangosir mewn meddygfeydd.
Mae'r undeb yn honni bod ymddygiad ymosodol yn bryder cynyddol a bod angen adolygiad i'r rhesymau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i gynghorau ac ysgolion sicrhau fod ysgolion yn llefydd diogel i bawb.
'Dim yn gyfartal'
Dywedodd un athro iddo gael ei ddyrnu gan blentyn yn ei arddegau pan geisiodd ymyrryd mewn digwyddiad ar yr iard.
Yn ogystal â'r effaith gorfforol a'r amheuaeth ei fod wedi torri asgwrn, dywedodd iddo ddod dan straen a phryder ac na ddychwelodd i'r gwaith am flwyddyn, cyn gadael ei swydd yn ffurfiol.
"Doedd hi ddim yn edrych fel byddai unrhyw ganlyniad i'r disgybl yn sgil hyn, nag unrhyw gefnogaeth i mi chwaith - sut oeddwn i'n teimlo," meddai.
"Mae diogelwch a lles staff yr un mor bwysig â diogelwch a lles disgyblion, dylai o fod yn gyfartal. Dydy o ddim yn gyfartal."
Dywedodd athrawes ysgol uwchradd arall iddi gael ei gorfodi i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar ôl sawl digwyddiad, gan gynnwys bygythiadau o drais ac iaith ymosodol gan ddisgyblion.
Roedd hi'n teimlo bod cam-drin alcohol a chyffuriau yn ffactor - rhywbeth nad oedd ysgolion "mewn sefyllfa dda i ddelio ag ef ac yn casáu ei gydnabod".
"Mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd yn fwy a fwy aml," meddai.
Dywedodd yr undeb, sy'n trafod y mater yng Nghasnewydd ddydd Sul, fod toriadau cyllid yn gwaethygu'r broblem, yn ogystal â materion yn ymwneud â disgyblaeth gartref a phroblemau cymdeithasol ehangach.
'Diwylliant o barch'
Dywedodd Stuart Williams, Swyddog Polisi NEU Cymru: "'Di trais ddim yn broblem enfawr, ond mae o yn broblem 'da ni'n gweld yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
"Mae ysgolion i gyd efo'u polisïau ymddygiad eu hunain, ond maen nhw'n cael eu llywio gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
"Felly pan mae achos o drais yn digwydd yn yr ysgol mae'r ysgol yn dilyn polisi'r ysgol ei hunan, ond falle os ydy o'n drais difrifol bod o ddim yn cael ei ddelio gyda yn y natur cywir.
"Felly mae 'na delay yn beth sy'n digwydd i'r plentyn.
"Yn sgil y trais ar y lefel isaf roedd cam-drin geiriol, yna bygwth, ac ar ei waethaf ymosodiadau corfforol ac anafiadau. Roedd ymddygiad bygythiol gan rieni hefyd."
Dywedodd Mr Williams fod syniad poster yn ddechreuad ac yn dod â'r mater i'r amlwg ond bod angen dychwelyd i ddiwylliant o barch at athrawon gan y lleiafrif sy'n achosi problemau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2019