Heddlu'n hysbysu ysgolion am achosion o gam-drin domestig
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i ysgolion am 1,500 achos o gam-drin domestig lle'r oedd plentyn yn bresennol fel rhan o gynllun newydd.
Heddlu Gwent sy'n gyfrifol am y cynllun, Operation Encompass, sy'n gobeithio lleihau'r risg o ddisgyblion yn cael eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACES).
Mae'r llu yn ceisio rhoi gwybod i ysgolion erbyn 09:00 os ydyn nhw'n ymwybodol bod plentyn wedi cael ei effeithio gan drais domestig yn y 24 awr flaenorol.
Ers mis Mawrth mae Heddlu Gwent wedi ymateb i 1,119 adroddiad o'r fath.
Mae ACES yn cynnwys cam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, a chael eu magu mewn cartref lle mae yna drais, salwch meddwl, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu broblemau troseddol.
Gobaith Operation Encompass, gafodd ei lansio gan Heddlu Gwent ym mis Hydref y llynedd, yw cefnogi pobl ifanc sy'n cael profiadau o'r fath yn ogystal â lleihau troseddu gan y plant yn y dyfodol.
Ers mis Mawrth cafodd ysgolion wybod bod 1,552 o blant rhwng 4-17 oed yn bresennol pan gafodd yr heddlu eu galw i adroddiad o drais domestig.
Mewn un achos cafodd ysgol wybod fod plentyn yn bresennol yn ystod naw achos gwahanol o drais domestig o fewn tri mis.
Dywedodd Huw Lloyd, sy'n brifathro mewn ysgol yng Nglyn Ebwy, bod derbyn gwybodaeth gyflym yn galluogi athrawon a staff yr ysgol i fod yn barod i gefnogi'r plant.
"Rydyn ni'n derbyn galwad yn y bore gan unigolyn penodedig o fewn yr heddlu sy'n rhoi gwybod i ni os ydi'r heddlu wedi cael eu galw i achos o drais domestig yn ymwneud â disgybl yn yr ysgol."
'Rhy hwyr'
Ychwanegodd Mr Lloyd: "Gyda'r hen system, bydden ni'n derbyn yr wybodaeth ond byddai'n cyrraedd pythefnos neu tair wythnos yn rhy hwyr. Mae'r plant yn dioddef o'r trais yma hefyd ac yn amlwg byddai'r niwed wedi ei wneud erbyn hynny."
Golygai'r drefn newydd fod modd gwneud trefniadau arbennig i gefnogi'r plant gan gynnwys ardaloedd tawel, y cyfle i drafod gydag aelod o staff, darparu gwisg ysgol glan neu'r cyfle i ddal fyny ar gwsg.
Stori Erin
Yn ôl Erin, 40 oed, oedd yn dyst i drais domestig yn ystod ei phlentyndod, gallai cefnogaeth o fewn yr ysgol fod wedi ei helpu hi.
Dywedodd y fam o Borthcawl: "Doedd neb yn gwybod, byddwn i'n mynd i'r ysgol a byddai'r athrawon dim callach.
"Roeddwn i'n dawel iawn, yn nerfus ac wedi blino yn ofnadwy ar ôl gorfod aros ar fy nhraed drwy nos yn gwrando ar yr hyn oedd yn digwydd lawr grisiau.
"Hyd yn oed nawr, 25 mlynedd yn ddiweddarach, rydw i dal yn teimlo ofn wrth glywed synau uchel... rwy'n cofio clywed dwrn yn taro'r bwrdd, ac fel yna roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth ar fin digwydd."
Ychwanegodd Erin ei bod hi'n flin wrth glywed am y nifer o adroddiadau: "Pam bod hyn yn digwydd? Pam bod rhaid i blant fod yn dyst i'r pethau ofnadwy yma?"
Dywedodd yr uwch-arolygydd Paul Staniforth, sy'n arwain rhaglen ACES Heddlu Gwent, bod modd i'r cynllun yma "newid bywydau".
"Rydyn ni'n ymwybodol o bwysigrwydd ymyriadau addas er mwyn cefnogi plant a theuluoedd bregus er mwyn sicrhau ein bod ni'n torri'r cylchred o ail-droseddu."
Mae'r cynllun wedi ei fabwysiadu gan y pum awdurdod lleol yn ardal Heddlu Gwent ac mae lluoedd eraill gan gynnwys Heddlu'r Gogledd a Heddlu Dyfed-Powys yn bwriadu gwneud yr un fath.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru ar fin lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018