Tenantiaid yn cael 'eu gorfodi i ddyled' cyn y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Fe allai miloedd o bobl yng Nghymru gael eu gorfodi i ddyled cyn y Nadolig oherwydd oedi yn dosbarthu credyd cynhwysol, yn ôl corff cymdeithasau tai.
Bydd pobl sy'n gwneud cais am y budd-dal yr wythnos hon yn disgwyl pum wythnos i'w dderbyn.
Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) bod 84% o denantiaid â dyled o £556 mewn rhent ar gyfartaledd, ac y bydd disgwyl am bum wythnos yn "eu gorfodi i ddyled".
Fe wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau annog pobl i wneud cais cyn gynted â phosib.
'Caledi sylweddol'
Mae CCC, sy'n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai, yn credu y bydd yr oedi yn golygu na fydd yr arian yn cyrraedd cyn y Nadolig.
Dywedodd y byddai'n achosi "caledi sylweddol" i nifer o bobl sy'n cael trafferthion gyda'u hincwm.
Cafodd credyd cynhwysol ei lansio yn 2010 gyda'r nod o wneud y system fudd-daliadau'n haws, gan gyfuno chwe budd-dal mewn un taliad.
Ond mae nifer o'r 2.3 miliwn o bobl ar draws y DU sy'n ei dderbyn wedi cwyno am amryw o faterion, gan gynnwys derbyn llai o arian.
Dywedodd CCC bod y ddyled rhent o £556 bron yn ddwbl hynny oedd yn ddyledus gan denantiaid dan yr hen system budd-dal tai.
"Er rhai gwelliannau i'r system credyd cynhwysol, mae'r cynnydd yn nefnydd banciau bwyd a dyled rhent yn dangos ei fod yn parhau i achosi caledi diangen i bobl," meddai Will Atkinson o CCC.
Dywedodd bod rhai o'u staff yn treulio hyd at chwe awr y diwrnod yn cefnogi tenantiaid sy'n cael trafferthion, gan alw credyd cynhwysol "ddim yn addas i'w bwrpas".
Yn ôl llefarydd o'r Adran Gwaith a Phensiynau: "Os ydy pobl yn credu eu bod yn gymwys am gredyd cynhwysol fe ddylen nhw wneud cais heb oedi ac mae taliadau o flaen llaw ar gael i'r rheiny sydd ag angen brys.
"Fis Rhagfyr diwethaf fe wnaethon ni daliadau o £774m i tua 1.2 miliwn o gartrefi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017