Dyn yn gwadu achosi llofruddiaeth ei wraig ag olew coginio
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys bod perchennog siop sglodion wedi llofruddio ei wraig 69 oed drwy achosi llosgiadau angheuol gydag olew coginio.
Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod ar ôl ymosodiad honedig yn eu siop sglodion yn Hermon, Sir Gaerfyrddin ar 23 Hydref y llynedd.
Mae Geoffrey Bran, 71, yn gwadu ei fod wedi gwthio neu daflu offer coginio oedd yn dal olew berwedig dros ei wraig.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Mrs Bran wedi ffonio ffrind iddi gan weiddi: "Mae Geoff wedi taflu olew berwedig drosof fi. Plîs dere 'ma rwyf angen dy help."
Dywedodd meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Treforys, Jeremy Yarrow, bod Mrs Bran wedi dioddef llosgiadau ar 46% o'i chorff, yn cynnwys ar ei phen, ei gwddf a'i breichiau a choesau.
Roedd y cwpl - a oedd wedi bod yn briod ers dros 30 o flynyddoedd - wedi agor siop y Chipoteria yn Ionawr 2018.
Yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd Paul Lewis QC ar ran yr erlyniad fod y ddau yn berchen ar nifer o fusnesau bach ac eiddo arall yn y de.
"Mae'n ymddangos fod pwysau ariannol ar fusnesau ar adegau wedi rhoi straen ar y berthynas, ac y byddant yn dadlau am arian," meddai Mr Lewis.
"Maen nhw'n cael eu disgrifio gan bobl oedd yn eu hadnabod fel dau oedd yn gallu colli tymer ac oedd 'wastad yn cwympo mas, rhegi a gweiddi ar ei gilydd'."
Yn ôl yr erlyniad, roedd ffrind i'r teulu wedi dweud fod Mavis Bran o hyd yn "mwydro Geoffrey Bran, ond hynny am faterion pitw bach".
Yn y misoedd cyn ei marwolaeth, meddai'r erlyniad, fe ddywedodd Caroline Morgan, fod perthynas y ddau fel petai wedi dirywio.
"Yn ystod y cyfnod hwn byddai Mavis Bran yn ffonio Caroline Morgan yn ei dagrau gan ddweud 'mae e'n troi yn gas'," meddai Mr Lewis.
'Wedi baglu'
Yn ôl yr erlyniad, roedd Mrs Bran wedi ffonio Ms Morgan tua 13:15 gan weiddi arni fod y diffynnydd wedi ymosod arni gydag olew berwedig.
Dywed yr erlyniad fod Ms Morgan wedi dod o hyd i'w ffrind mewn "sioc ac yn ysgwyd".
Dywedodd Ms Morgan fod y diffynnydd wedi dweud wrthi fod ei wraig wedi baglu gan dynnu'r offer dal yr olew lawr arni.
Clywodd y llys hefyd fod cwsmer arall, Guto Jones, wedi sylwi ar friw uwchben llygaid Mr Bran.
Mae'r erlyniad yn dweud bod ffrind arall oedd yn byw gyda'r cwpl, Gareth Davies, wedi gweld Mrs Bran yn dychwelyd i'r cartref yn noeth o'i chanol i fyny, gan weiddi "rwyf wedi cael fy llosgi" ac "rwyf wedi cael olew poeth drosof".
Dywedodd Mr Davies fod ei chroen yn ddugoch, ac y pilio oddi ar ei garddwrn.
Clywodd y llys bod parafeddyg wedi clywed Mrs Bran yn dweud wrth Ms Morgan am ddod â Mr Bran i'w gweld hi er mwyn iddo "weld beth mae o wedi ei wneud".
Erbyn iddi gyrraedd yr ysbyty nid oedd hi'n gallu dweud wrth yr heddlu beth ddigwyddodd.
Mae'r achos yn parhau.