Neil Warnock yn gadael ei swydd fel rheolwr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau bod y rheolwr Neil Warnock wedi gadael y clwb.
Mewn datganiad, fe wnaeth y clwb gadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb gyda Warnock i ddod â'i gyfnod fel rheolwr i ben.
Daeth Warnock yn rheolwr yr Adar Gleision yn Hydref 2016 gan eu harwain i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018.
Roedd y gŵr 70 oed yn ei flwyddyn olaf o'i gytundeb gyda'r clwb ac roedd eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n gadael ar ddiwedd y tymor.
Ond fe fethodd a chadw'r clwb yn gynghrair, ac fe ddisgynnodd Caerdydd yn ôl i'r Bencampwriaeth yn syth.
'Wythnos waethaf'
Warnock oedd rheolwr y clwb pan fu farw'r ymosodwr Emiliano Sala mewn damwain awyren ym mis Ionawr.
Fe ddisgrifiodd Warnock y cyfnod fel yr "wythnos waethaf iddo erioed ei gael yn ei yrfa bêl-droed".
Roedd Warnock wedi goruchwylio 144 o gemau'r Adar Gleision yn ei dair blynedd wrth y llyw.
LLwyddodd i ennill 59 o'r rheiny, colli 29 a 56 o gemau cyfartal.
'Byddwch lwcus'
Mae'r Adar Gleision yn y 14eg safle yn y Bencampwriaeth wedi 16 gêm, ar ôl ennill pump, colli pump a chael chwe gêm gyfartal hyd yma.
Mewn datganiad dywedodd Neil Warnock: "Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau'r daith.
"Dwi'n falch iawn o fod yn gadael y clwb yn unedig a gobeithio y byddwch i gyd yn cael y llwyddiant yr ydych i gyd yn ei haeddu.
"Byddwch lwcus," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019