Iestyn Tyne yw bardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol 2021

  • Cyhoeddwyd
Coron
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Tyne yw'r person cyntaf erioed i 'ennill y dwbl' - coron a chadair - Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Iestyn Tyne fydd bardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Bydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Boduan yn Llŷn yn haf 2021, y tro cyntaf i'r Brifwyl gael ei chynnal yn ardal Llŷn ac Eifionydd ers 1987, pan gynhaliwyd yr ŵyl ym Mhorthmadog.

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod benodi bardd preswyl, a'r bwriad yn ôl yr Eisteddfod fydd i "gofnodi'r gwaith ar lawr gwlad mewn ffordd gyffrous a newydd".

Bydd y bardd yn creu cerddi i adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei gynnal yn lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Betsan Moses bod "nifer o geisiadau gwirioneddol dda" wedi bod am y swydd

Wrth ymateb i'w benodiad dywedodd Mr Tyne: "Braint o'r mwyaf i mi yw cael fy mhenodi yn fardd preswyl ar gyfer y cyfnod rhwng rŵan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2021.

"Mae'r ffaith i mi gael fy magu dafliad carreg o faes yr eisteddfod honno yn gwneud y cyfle yn un arbennig iawn ar lefel bersonol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â phobl o bob math o gefndiroedd sy'n byw ym mro'r eisteddfod dros y ddwy flynedd nesaf."

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Cafwyd ymateb arbennig i'r cyfle hwn, a nifer o geisiadau gwirioneddol dda.

"Felly llongyfarchiadau gwresog i Iestyn ar gael ei ddewis i ymgymryd â'r gwaith."