Tregaron i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2020

  • Cyhoeddwyd
tregaron

Tregaron fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol pan fydd yn ymweld â Cheredigion yn 2020.

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â'r dref, ac mae'n chwarter canrif ers iddi gael ei chynnal yng Ngheredigion.

Yn 1992 cafodd y brifwyl ei chynnal yn Aberystwyth.

Bydd maes yr Eisteddfod yn 2020 ar gyrion gogleddol Tregaron, ar y naill ochr i'r A485 tuag at Aberystwyth.

'Croeso cynnes'

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn: "O'r diwedd, wedi misoedd o chwilio am safleoedd addas lan a lawr y sir, daeth y newyddion roedd pob un o garedigion yr Eisteddfod yng Ngheredigion yn aros amdano.

"Dewis Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod yw mai Tregaron yng nghanol y sir fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

"Edrychwn ymlaen yn eiddgar at groesawu eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru yma yn Awst 2020."

Disgrifiad,

Dywedodd Ellen ap Gwynn y bydd yr Eisteddfod yn "hwb mawr" i Dregaron

Dywedodd Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod: "Mae'n braf cyhoeddi bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i ardal Ceredigion ymhen dwy flynedd.

"Dyma'r tro cyntaf i'r ŵyl ymweld â thref Tregaron, ac rwy'n sicr y bydd tîm cryf o gefnogwyr a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad i gydweithio gyda ni dros y ddwy flynedd nesaf."

'Penllanw misoedd o gydweithio'

Ychwanegodd Betsan Moses, fydd yn olynu Mr Roberts fel prif weithredwr yr Eisteddfod wedi'r Brifwyl yng Nghaerdydd eleni, fod y cyhoeddiad yn "benllanw misoedd o gydweithio rhwng yr Eisteddfod a'r cyngor lleol".

"Braf yw dweud ein bod wedi datblygu perthynas arbennig o dda gyda'r swyddogion a'r aelodau'n lleol," meddai.

"Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen yn arw at weithio yng Ngheredigion o gychwyn y prosiect, ac rwy'n sicr bod dwy flynedd gyffrous o'n blaenau wrth i ni gydweithio er mwyn creu Eisteddfod i'w chofio, gan ddechrau gyda'r cyfarfod cyhoeddus ym mis Medi."

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Aberaeron ar 20 Medi i drafod ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal.

Yn y cyfarfod hwnnw bydd cyfle i drafod sut y gellir bod yn rhan o'r tîm fydd yn llywio'r gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.