Perchennog siop sglodion yn 'ofni bod ei gŵr am ei lladd'
- Cyhoeddwyd
Roedd dynes a fu farw chwe diwrnod ar ôl ymosodiad honedig mewn siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud ei bod hi "ofn ei gŵr".
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mavis Bran wedi dweud wrth cyfaill ei bod hi'n poeni fod Geoffrey Bran yn mynd i'w lladd hi.
Mae Geoffrey Bran, 71, yn gwadu llofruddio'i wraig, Mavis, 69, ar 23 Hydref y llynedd.
Mae'n gwadu ei fod wedi gwthio neu daflu offer coginio oedd yn dal olew berwedig dros ei wraig yn y Chipoteria yn Hermon.
Y ddau yn 'colli tymer'
Clywodd y rheithgor gan Caroline Morgan, ffrind i'r pâr, oedd wedi gweithio gyda nhw yn siop y Chipoteria ac wedi eu 'nabod ers dros 20 mlynedd.
Dywedodd hi fod perthynas y ddau fel petai wedi dirywio, a bod Mavis Bran wedi ei ffonio hi yn ei dagrau ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth gan ddweud ei fod yn "troi yn gas".
"Roedd hi wedi dweud ei bod hi ofn ei fod e'n mynd i'w lladd hi," meddai.
Roedd y ddau yn gallu colli tymer, meddai, ac roedden nhw "wastad yn cwympo mas, rhegi a gweiddi ar ei gilydd".
Ychwanegodd Mrs Morgan ei bod hi'n meddwl fod gan Mavis Bran broblem gydag alcohol a'i bod hi yn yfed dau neu dri photel o win y diwrnod, gan agor y cyntaf yn aml am 10:30.
Roedd hi yn Aberteifi pan gafodd alwad ffôn ar ddiwrnod y digwyddiad gan Mrs Bran, oedd yn "sgrechian" am gymorth.
Dywedodd bod Mrs Bran wedi dweud: "Help! Help! Argyfwng! Argyfwng! Mae Geoff wedi taflu olew berwedig drosof fi. Dere 'ma nawr. Rwy' angen dy help. Rwy' wedi llosgi'n uffernol."
Pan gyrhaedodd hi Hermon, dywedodd Mr Morgan fod croen Mrs Bran i'w gweld yn dod oddi ar ei dwylo.
Gofynnodd Christopher Clee QC, ar ran yr amddiffyniad, pam nad oedd Mrs Morgan wedi dweud wrth parafeddygon bod Mrs Bran yn honni mai Mr Bran oedd yn gyfrifol.
"Dwi'n meddwl fy mod i'n poeni fwy am gael help i Mavis," meddai.
Gofynnodd Mr Clee a oedd hi'n bosib fod Mrs Morgan yn amau fersiwn Mrs Bran o'r hyn oedd wedi digwydd.
"Mae wastod dwy ochr i bob stori," meddai Mrs Morgan.
'Damwain wedi bod'
Yn gynharach, clywodd y rheithgor gan Guto Jones, un o gwsmeriaid y siop sglodion.
Dywedodd wrth y llys ei fod wedi gweld eitem ynglŷn â'r siop sglodion ar S4C a'i fod wedi gweld Mavis a Geoffrey Bran ar y rhaglen.
Roedd Mr Jones wedi siarad gyda Mrs Bran ar y ffôn er mwyn archebu'r bwyd, ond Geoffrey ac nid Mavis oedd yn y siop pan gyrhaeddodd ef Hermon.
Dywedodd bod Geoffrey Bran wedi dweud bod rhyw fath o ddamwain wedi bod.
"Dangosodd yr olew ar y llawr y tu ôl i'r cownter a dweud bod Mavis wedi llosgi," meddai.
Fe ddywedodd ei fod wedi gofyn sut ddigwyddodd y ddamwain, a bod Mr Bran wedi dweud ei bod hi wedi "dal neu fachu yn rhywbeth".
Clywodd y rheithgor hefyd gan Christopher Richards, technegydd yr ambiwlans aeth i'r digwyddiad, a ddywedodd bod Mrs Bran mewn poen difrifol.
"Dywedodd Mrs Morgan wrth Mavis i ddweud yn union beth oedd wedi digwydd," meddai.
"Roedd ei gŵr wedi taflu twb o olew poeth drosti," dywedodd Mr Richards.
Mae'r achos yn parhau.