Adam Price: Pobl eisiau atebion ar annibyniaeth

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Mewn araith yng Nghaernarfon ddydd Mawrth bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dweud fod pobl eisiau atebion i "gwestiynau manwl ac ymarferol" ar annibyniaeth.

Bydd y blaid yn sefydlu comisiwn i edrych ar y cwestiynau ymarferol hynny, gan archwilio'r achos economaidd ar gyfer annibyniaeth.

Bydd arbenigwyr o wahanol gefndiroedd yn cyfrannu i'r comisiwn, fydd yn cael ei gadeirio gan gyn-AC Plaid Cymru, Jocelyn Davies.

Wrth ganfasio ym Montnewydd, dywedodd Mr Price ei fod yn credu y bydd cwestiynau ynglŷn ag annibyniaeth yng nghanol gwleidyddiaeth Cymru yn y ddegawd nesaf.

'Cynllun ymarferol'

"Mae pobl eisiau gwybod sut y byddwn yn llwyddo'n economaidd, sut byddwn yn pontio'r bwlch ariannol rhwng y cyllid y byddwn yn ei gasglu yng Nghymru a'r cyfanswm fydd ei angen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

"Dwi'n credu fod calonnau pobl yn dweud eu bod eisiau credu bod modd i ni fod yn wlad annibynnol.

"Y dasg nawr yw argyhoeddi'r pen hefyd i ddangos fod gennym ni gynllun ymarferol."

Bydd y comisiwn yn adrodd yn ôl mewn ychydig dros flwyddyn.