Galw am iawndal gan y rhai sydd wedi elwa o sgandal Swyddfa'r Post

Yn 2007 bu'n rhaid i Alun Lloyd Jones dalu £20,000 i Swyddfa'r Post wedi i'r system Horizon ddangos, yn anghywir, bod arian ar goll o'i gyfrifon
- Cyhoeddwyd
Mae is-bostfeitr wnaeth ddioddef yn sgil sgandal Swyddfa'r Post wedi croesawu galwad i beidio rhoi cytundebau llywodraethol i gwmni Fujitsu - ond yn dweud bod yn rhaid mynd ymhellach.
Dywedodd Alun Lloyd Jones fod rhai pobl oedd yn gyfrifol am y sgandal yn elwa'n ariannol tra bod dioddefwyr yn dal i ddisgwyl am iawndal.
Ychwanegodd na ddylai Fujitsu elwa o gytundebau gyda Llywodraeth y DU ac y dylai'r cwmni a chyn-reolwyr Swyddfa'r Post gefnogi'r dioddefwyr yn ariannol.
Dywedodd llefarydd ar ran Fujitsu eu bod yn cynnal trafodaethau gyda'r llywodraeth ynglŷn â chyfrannu iawndal, tra bod llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain yn dweud bod Fujitsu wedi sicrhau na fydden nhw'n tendro am gytundebau newydd ganddyn nhw.
Mae Swyddfa'r Post yn dweud eu bod yn gweithio ar eu hymateb i adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal.
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
Roedd Mr Jones, o ardal Aberystwyth, yn ymateb i lythyr sydd wedi ei yrru gan ei AS lleol, Ben Lake a 75 gwleidydd arall at Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer.
Mae'r gwleidyddion, sy'n aelodau o bleidiau gwahanol, yn dweud bod Fujitsu wedi ennill cytundeb llywodraeth gwerth £125m fis Ebrill ac yng nghanol trafodaethau am ail-dendro cytundeb £370m sydd eisoes ganddyn nhw.
Y cwmni o Japan oedd yn gyfrifol am greu'r system gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon oedd wrth wraidd sgandal Swyddfa'r Post.
Roedd y system weithiau'n dangos bod colledion mewn cyfrifon er nad oedd hynny'n wir mewn gwirionedd, a'r is-bostfeistri yn cael eu beio ar gam.
Fe gafodd mwy na 900 is-bosfeistr eu herlyn rhwng 1999 a 2015 a nifer fawr wedi talu'r arian 'coll' i Swyddfa'r Post er mwyn osgoi cael eu herlyn.

Mae Ben Lake ymhlith yr Aelodau Seneddol sy'n pryderu am y posibilrwydd o weld Fujitsu yn ennill cytundeb cyhoeddus newydd
Yn y llythyr, sydd wedi ei yrru at Cymru Fyw, mae'r 32 Aelod Seneddol a 44 aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn dweud eu bod yn "bryderus bod Fujitsu yn parhau i gael cytundebau mawr llywodraethol er gwaetha eu rôl yn y sgandal - un o'r enghreifftiau o gamweinyddu cyfiawnder mwyaf yn hanes Prydain."
Maen nhw'n galw ar y Prif Weinidog i gynnal adolygiad i weld os ydi Fujitsu yn gymwys i geisio am wasanaethau cyhoeddus mawr ac y dylai cwmnïau dalu iawndal am fethiant cyn ennill cytundeb newydd.
Dywedodd Ben Lake AS wrth Cymru Fyw: "Yr hyn sy'n annerbyniol yw bod y cwmni, er yn elwa o gytundebau cyhoeddus, heb dalu'r un geiniog i'r cronfeydd iawndal sydd wedi eu sefydlu i gefnogi rhai cafodd eu heffeithio gan y sgandal Horizon.
"Ni ddylai'r llywodraeth ganiatáu i'r cwmni ennill cytundebau cyhoeddus newydd nes eu bod nhw wedi talu iawndal, ac adolygiad trylwyr i fodloni'r cyhoedd eu bod nhw wedi dysgu o'r camgymeriadau a arweiniodd at y sgandal yn y lle cyntaf."

Alun Lloyd Jones yn ei swyddfa bost yn Llanfarian ac yn defnyddio system Horizon
Awgrymodd Mr Jones, sy'n ymgyrchu i geisio digolledi'r teuluoedd, bod yn rhaid mynd ymhellach.
Roedd y cyn-gynghorydd yn is-bostfeistr yn Llanfarian ac ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion. Yn 2007 bu'n rhaid iddo dalu £20,000 i Swyddfa'r Post wedi i'r system Horizon ddangos, yn anghywir, bod arian ar goll o'i gyfrifon.
Wedi 18 mlynedd o frwydro am gyfiawnder fe gafodd iawndal yn gynharach eleni -ond mae'n parhau i frwydro dros eraill.
"Rwy'n falch iawn o'r llythyr i'r Prif Weinidog ac yn ei groesawu, ond mae angen mynd yn bellach," meddai.
"Dyw e ond yn crafu'r wyneb i fynd ar ôl Fujitsu. Mae'n iawn i fynd ar eu holau nhw oherwydd dy' nhw heb gyfrannu ceiniog o gwbl ond beth am y rhai oedd yn gweithio i'r Swyddfa Bost?
"Mae eu pension rights dal gyda nhw - ac roedden nhw'n cael bonuses am wneud yr holl beth, a fi'n credu dylai nhw roi'r arian yma i'r rhai sydd wedi ac sydd yn dal i ddiodde'.
"Nhw wnaeth brynu'r system. Roedd bai ar Fujitsu ond ble oedd due diligence y rhai yn y Swyddfa Bost oedd yn gyfrifol?"

Cafodd rhan gyntaf yr adroddiad - sy'n canolbwyntio ar y broses o dalu iawndal ac effaith ddynol y sgandal - ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf
Cafodd rhan gyntaf adroddiad Syr Wyn Williams i'r ymchwiliad cyhoeddus i mewn i'r sgandal ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2025.
Dywedodd yn ei adroddiad fod y sgandal wedi cael effaith "drychinebus" ar is-bostfeistri a'u bod wedi dioddef "ymddygiad gwbl annerbyniol" gan swyddogion Swyddfa'r Post a Fujitsu.
Mae Syr Wyn wedi gofyn i'r llywodraeth a Fujitsu ymateb i'w ganfyddiadau erbyn mis Hydref 2025 fan hwyraf.
Bydd yn edrych ar sut y digwyddodd y sgandal a phwy oedd yn gyfrifol mewn adroddiad diweddarach.
'Gobeithio am ddatrysiad cyflym a chyfiawnder'
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod yn rhaid dwyn i gyfrif y rhai oedd yn gyfrifol am y sgandal.
"Mae Fujitsu wedi ymrwymo i dynnu'n ôl o gynnig am gontractau gyda chwsmeriaid newydd y llywodraeth nes bod ymchwiliad Swyddfa'r Post wedi dod i ben," meddai'r llefarydd.
"Ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu, lle bo'n briodol, yn seiliedig ar y canfyddiadau terfynol."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Fujitsu eu bod wedi ymddiheuro am ddioddefaint yr is-bostfeistri ac yn gobeithio am ddatrysiad cyflym a chyfiawnder i'r dioddefwyr.
"Rydym yn ystyried yr argymhellion a nodwyd gan Syr Wyn yn rhan gyntaf o adroddiad yr ymchwiliad, ac yn ymgysylltu â'r llywodraeth ynghylch cyfraniad Fujitsu at yr iawndal."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post eu bod yn ymddiheuro'n llwyr am y dioddefaint a'u bod yn "canolbwyntio ar ymateb i ran un adroddiad yr ymchwiliad a thalu iawndal i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio, gyda dros £1.1 biliwn bellach wedi'i dalu i 8,600 o bobl.
"Rydym yn parhau i gefnogi'r ymchwiliad wrth iddo baratoi ail ran yr adroddiad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.