Cyn rheolwr Millwall, Neil Harris yw rheolwr newydd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Neil HarrisFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Harris yn ymuno a Chaerdydd ar ôl gadael Millwall

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau mai Neil Harris fydd yn olynu Neil Warnock fel ei rheolwr newydd ar gytundeb tan ddiwedd tymor 2022.

Fe wnaeth Neil Warnock adael yr Adar Gleision ddydd Llun wedi tair blynedd wrth y llyw.

Fe wnaeth Harris gamu lawr fel rheolwr Millwall ar ôl dros bedair blynedd yn rheoli'r tîm o dde Llundain.

Bydd Harris yn dod a chyn is-reolwr Millwall, David Livermore gydag ef i Gaerdydd a daeth cadarnhad byddai James Rowberry ac Andy Dibble yn aros fel rhan o'r tîm rheoli.

Bydd yr hyfforddwyr dan Neil Warnock, Kevin Blackwell a Ronny Jepson yn gadael y clwb.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Warnock yn gadael Caerdydd wedi tair blynedd wrth y llyw

Fe adawodd Harris Millwall ar gefn rhediad wael yn y Bencampwriaeth ar ôl methu ag ennill unrhyw un o'i saith gem ddiwethaf fel ei rheolwr.

Yn ogystal â rheoli Millwall, fe yw prif sgoriwr yn hanes y clwb gyda 138 gôl mewn 432 o gemau dros ddau gyfnod gyda'r Llewod.

Un o brif lwyddiannau Harris fel rheolwr oedd arwain Millwall i ddyrchafiad o Adran Un yn 2017 drwy'r gemau ail gyfle.

Bydd Harris yn cymryd drosodd yng Nghaerdydd gyda'r clwb yn yr 14eg safle yn y Bencampwriaeth.

Wedi 18 gêm y tymor hwn, llwyddodd i ennill pump, colli pump a chael chwe gêm gyfartal hyd yma.

Cyn gadael y clwb ddydd Llun, dywedodd Neil Warnock ei fod yn gadael clwb sydd nawr yn "unedig."

"Gobeithio y byddwch i gyd yn cael y llwyddiant yr ydych i gyd yn ei haeddu.

"Byddwch lwcus," meddai.