Angen gwneud mwy i atal gwerthiant Ocsid Nitraidd

  • Cyhoeddwyd
Nitrous oxideFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n rhaid i siopau ar-lein 'gymryd cyfrifoldeb' er mwyn atal y gwerthiant o'r nwy Ocsid Nitraidd (N²O) ar gyfer difyrrwch personol, yn ôl arbenigwr ar safonau masnach.

Nwy Chwerthin, neu Nos, yw'r ail gyffur mwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr tu ôl i ganabis, ond mae gwerthu'r nwy ar gyfer difyrrwch personol yn anghyfreithlon ers 2016.

Yn ôl Tim Keohane o adran safonau masnach Cyngor Caerffili, mae gwerthiant y nwy ar y we yn destun "pryder enfawr".

Daeth ymchwiliad gan BBC Cymru o hyd i Nwy Chwerthin ar werth ar Amazon ac Ebay ochr yn ochr â chynnyrch sy'n cael ei ddefnyddio i'w gymryd er mwyn difyrrwch personol, fel balwnau. Mae'r gwefannau'n mynnu bod rhaid i werthwyr ddilyn eu canllawiau.

Fe wnaeth Samantha - nid ei henw iawn - dynes 22 oed o Gaerdydd, ddefnyddio Ocsid Nitraidd tra'n ieuengach ar ôl i ffrind ei brynu ar wefan Amazon.

"Dwi'n meddwl pan chi'r oed yna ac mae pawb o'ch cwmpas chi'n ei wneud e, a chi ddim yn gweld unrhyw effeithiau drwg na negyddol; chi'n meddwl 'oh, mae'n iawn, mae'n rhywbeth mae pobl ifanc yn ei wneud'," meddai.

Ond fe gafodd hi brofiad drwg - gan deimlo'n sâl a thyndra yn ei brest ar ôl cymryd sylwedd oedd ei ffrindiau wedi prynu ar y we, dan yr argraff mai Nwy Chwerthin oedd e. Ond daeth i'r amlwg eu bod wedi prynu Carbon Deuocsid.

Dyw CO2 ddim yn cael ei ddefnyddio yn yr un modd ac mae Ocsid Nitraidd, ond mae peryglon tebyg i unigolion sy'n ei anadlu.

Mae'r defnydd o Ocsid Nitraidd wedi'i gysylltu â 17 o farwolaethau yn ystod y tair blynedd diwethaf yn ôl ystadegau swyddogol.

Fe gafodd deddfwriaeth ei chyflwyno yn 2016, sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i werthu'r nwy er mwyn difyrrwch personol, ond mae erlynwyr wedi dweud nad yw'r gyfraith yn gweithio oherwydd bod defnydd cyffredin ohono o ddydd i ddydd yn cymhlethu'r sefyllfa.

Amazon ac Ebay

Daeth gwaith ymchwil gan BBC Cymru o hyd i focsys o duniau Ocsid Nitraidd ar werth ar wefan Amazon mewn pecyn oedd yn cynnwys balwnau, sy'n cael eu defnyddio i'w gymryd ar gyfer difyrrwch personol.

Roedd pecynnau tebyg ar gael ar wefan eBay hefyd.

Bellach, mae Amazon wedi cymryd y cynnyrch oedd yn cael ei werthu mewn pecynnau oddi ar y wefan.

Dywedodd y cwmni bod rhaid i werthwyr ddilyn eu canllawiau gwerthu a bod modd iddyn nhw ddileu cyfrifon y rhai sydd ddim.

Dywedodd eBay nad ydyn nhw'n caniatáu gwerthu deunyddiau sy'n annog ymddygiad anghyfreithlon ar y wefan a'u bod wedi cymryd y cynnyrch dan sylw oddi ar y wefan.

Mae Ocsid Nitraidd hefyd yn cael ei werthu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol - gyda nifer o'r rheiny yn rhybuddio i beidio â'i ddefnyddio er mwyn difyrrwch personol.

Ond, pan gysylltodd gohebydd cudd BBC Cymru â phump o werthwyr sy'n gweithio yng Nghymru a De Orllewin Lloegr, roedd y pump yn fodlon danfon y nwy'r noson honno, er i'r gohebydd ei gwneud hi'n eglur ei bod yn bwriadu defnyddio'r cyffur er mwyn difyrrwch personol.

Erlyn siop

Roedd Tim Keohane o adran Safonau Masnach Cyngor Caerffili yn aelod o'r tîm a lwyddodd i sicrhau un o'r erlyniadau cyntaf o siop am werthu'r nwy yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Fe wnaeth Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent erlyn Khera Store Ltd ar ôl darganfod bod Nos yn cael ei werthu yn siop 7-11 ar Ffordd Bedwas, Caerffili yn 2018. Bu'n rhaid i'r cwmni a'r rheolwr dalu dirwyon a chostau gwerth rhyw £2,000.

Fodd bynnag, mae Mr Keohane yn dweud bod profi'r drosedd pan mae'n ymwneud â gwerthwyr ar y we yn anoddach.

"Dyma'r cyffur o ddewis i bobl ifanc ar hyn o bryd. Does ond angen i chi gerdded o gwmpas meysydd parcio archfarchnadoedd a'r strydoedd y tu ôl i siopau yng nghanol trefi i weld bod hyn yn dipyn o broblem," meddai.

"Dydw i ddim yn credu bod y gyfraith yn ddigon effeithiol mewn perthynas â gwerthiant ar y we, ond dydw i ddim yn siŵr iawn sut i fynd i'r afael â hynny.

"Dwi'n meddwl bod angen i gwmnïau fel Amazon ac Ebay gymryd cyfrifoldeb oherwydd mae mor anodd i blismona'r rhyngrwyd a gwerthwyr, ar ryw bwynt mae'n rhaid iddyn nhw gamu ymlaen hefyd."

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud nad yw nifer o bobl yn ymwybodol o'r peryglon o ddefnyddio nos. Mae'r rhain yn cynnwys trafferthion anadlu, cynnydd peryglus yng nghyfradd curiad y galon, llosgiadau ac - mewn rhai achlysuron - marwolaeth.