'Rhaid edrych ar y pecyn cyfan' ar gynnig i filfeddygon

  • Cyhoeddwyd
Robat Idris Davies.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi gweld twf yn y nifer o filfeddygon sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, medd Robat Idris

Mae angen ailystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig i filfeddygon os am ddenu rhagor i'r proffesiwn, yn ôl Cyn-lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain, Robat Idris.

Yn ôl ffigyrau gan y gymdeithas roedd bron i 23% o swyddi gwag milfeddygon ym Mhrydain wedi cymryd dros chwe mis i'w llenwi.

Dywedodd un milfeddyg mai un o'r prif resymau dros yr anawsterau recriwtio yw cyflogau isel ac oriau anghymdeithasol.

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw ar y mater.

'Dan bwysau cynyddol'

Dywedodd Mr Idris fod y gymdeithas hefyd wedi gweld twf yn y nifer o filfeddygon sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.

"Dwi'n meddwl fod y proffesiwn ni fel sawl un arall o dan bwysau cynyddol."

Dywedodd fod iechyd meddwl yn broblem sy'n cynyddu gan fod "cadw lled braich o'r achosion unigol yn gallu bod yn anodd ac yn deud ar bobl."

Ychwanegodd bod angen "edrych ar y pecyn cyfan" sy'n cael ei gynnig i filfeddygon, os am gynyddu'r nifer sy'n ymuno â'r proffesiwn.

Mae Malan Hughes, 27, yn gweithio ym Milfeddygfa Deufor ger Pwllheli ers tair blynedd.

Mae hi wrth ei bodd gyda'r gwaith ond yn pwysleisio ei fod yn alwedigaeth.

"'Dan ni gorfod mynd trwy gwrs dros bum mlynedd ac ar ddiwedd hynny dydi'r cyflog ddim yn dangos hynny," meddai.

"Mae'r oriau'n hir ac mae'n waith ar alwad. Tydi o ddim yn tynnu llawer o bobl."

Gwaith 'emosiynol'

Yn ôl Malan mae'r gwaith yn emosiynol wrth orfod ymdopi â rhoi terfyn ar fywyd rhai anifeiliaid.

Mae hi hefyd yn dweud bod angen edrych ar sut mae prifysgolion yn hyfforddi myfyrwyr.

"Pan roeddwn i'n hyfforddi roedd llawer iawn o'r cwrs yn waith papur, ac wedyn hwyrach mlaen roedd rhywun yn mynd i'r byd go iawn.

"Roeddech chi'n gallu gwneud rhan fwyaf o'ch cwrs heb gyfathrebu ac mae rhan fwyaf o fy ngwaith i yn cyfathrebu efo pobl."