Ateb y Galw: Y gwyddonydd Deri Tomos
- Cyhoeddwyd
Y gwyddonydd Deri Tomos sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aled Hughes yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy 'nghyfweliad' radio cyntaf. Etholiad cyffredinol 26 Mai 1955, a minnau ddim cweit yn dair oed. Mam yn fy ngwthio mewn coets i'r orsaf bleidleisio (yn Rainham, Swydd Caint). Dwy'n cofio pelen wlanog y meicroffon o'm mlaen, a chael cerydd ar ôl cyrraedd gartref.
Y cwestiwn oedd - "i ba blaid wnaeth eich rhieni bleidleisio?" I minnau roedd Labour a Liberal yn swnio'n debyg i'w gilydd, a loes i Mam (o deulu brwd dros Liberals Lloyd George) oedd imi ddweud Labour mewn camgymeriad.
Bu hon yn stori deulu am flynyddoedd - er na chlywais fy nhad, o gefndir bur wahanol, erioed yn cwyno!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Liesl o'r Sound of Music. Collais ddeigryn flwyddyn neu ddwy yn ôl wrth glywed am ei marwolaeth.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mr Lodwig Jones, ein gweinidog ers talwm yn Heol y Crwys, Caerdydd, yn gofyn imi a fuaswn yn hoffi bod yn weinidog ar ôl tyfu. Fy ateb - "Buaswn, os na fedrwn ddod o hyd i rywbeth arall i'w wneud!"
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Gwrando ar raglen Vaughan Roderick o Ferlin yn trafod cwymp y Wal yno. (Rwy'n hoff iawn o'r Almaen, ar ôl gweithio yno am sawl blwyddyn.)
Llais un o'r cyfranwyr yn torri wrth sôn am ei chywilydd ar ôl pleidlais Cymru ar Brexit. Ei theimlad ein bod wedi gadael yr Almaen, a'i ymdrechion dros heddwch a chymod Ewrop, i lawr. Gwych a theimladwy oedd clywed yr hyn rwy'n ei deimlo.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Peidio dweud na!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bannau Brycheiniog, yn arbennig yr A4059/A470 o Benderyn i Aberhonddu. Atgofion cynnar wrth fynd am deithiau i'r wlad. Y dirwedd yn ymagor ar ôl gadael y 'Gweithe' - hefyd gwersi daeareg gan fy nhad. (Er bu bron imi foddi yn yr Afon Tarell tua'r un adeg â'm 'cyfweliad radio gyntaf'.)
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Taith i roi cyfweliad ym Mhrifysgol Aberdeen rywbryd ar ddechrau'r ganrif. Llanast ar y trenau a minnau yn cael tacsi o Dundee ymlaen ynghanol y nos. Yna profi'r gawod sêr gwib gwychaf welais erioed trwy ffenestri'r cerbyd. Roedd fel Star Wars gyda degau o sêr gwib bob munud. Roedd gyrrwr y tacsi, fel finnau, wedi cynhyrfu'n lân, ac yn crwydro o lôn i lôn ar y ffordd. Diolch i'r drefn ei fod yn hwyr y nos a ddim llawer o draffig o gwmpas.
Y noson honno roedd pob rhan o wledydd Prydain o dan gwmwl ond am y stribed bychan rhwng Dundee ac Aberdeen. Rhagluniaeth!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Brwdfrydig. Chwilfrydig. Swil.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
2001: A Space Odyssey. Ffilm a welais gyntaf, cyn ei ryddhau cyffredinol, ar fy mhen-blwydd yn 16 yn y sinema fwyaf y bum i ynddo erioed - yn Chicago.
Trefnodd fy nghyfaill Nathan Abrams gynhadledd undydd cyfan ym Mangor eleni i ddathlu 50 mlynedd y ffilm. Nirvana!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Tapputi-Belatekallim. Mae sôn amdani ar dabled o glai o Fabilon yn dyddio o 1200 cyn Crist. Hi yw'r cemegydd cyntaf y gwyddom ei enw. Roedd yn creu persawrau.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i ofn pethau miniog, yn arbennig cyllyll a gwydr wedi torri.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dal i geisio rhoi trefn ar lyfrau fy llyfrgell!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae gen i hoff gân bop Cymraeg newydd bob dydd - ond ers blynyddoedd rwy'n troi at Urlicht o Das Knaben Wunderhorn gan Mahler. Mae fersiwn wych gan Christianne Stotijn. Pam? Mewn un pennill geir holl brofiad y Cristion ar ei bererindod trwy fywyd.
O archif Ateb y Galw:
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Sushi, goulasch a phwdin reis - ond efallai ddim yn yr un pryd!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Donald Trump. Er mwyn ymddiswyddo a symud i faestref gyffredin ym Mecsico.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Branwen Haf Williams