'Byddwn i ddim yn arllwys olew dros unrhyw un'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed fod pensiynwr sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig yn eu siop sglodion yn Sir Gâr wedi dweud wrth yr heddlu na wnaeth daflu olew berwedig arni.
Mae Geoffrey Bran, 71, yn gwadu llofruddio ei wraig ar ôl ymosodiad honedig yn y Chipoteria yn Hermon ar 23 Hydref y llynedd.
Bu farw Mavis Bran, 69, yn ysbyty Treforys chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Ddydd Iau mae'r rheithgor wedi bod yn gwrando ar fanylion cyfweliadau Mr Bran gyda'r heddlu yn yr wythnosau yn dilyn y farwolaeth.
Dywedodd Mr Bran wrth yr heddlu nad oedd wedi colli ei dymer yn dilyn ffrae am bysgod oedd wedi eu llosgi.
Fe ofynnwyd iddo a oedd wedi colli ei dymer a thaflu'r olew dros ei wraig.
"Byddwn i ddim yn arllwys olew dros unrhyw un, byth," meddai wrth yr heddlu.
Fe ofynnodd ditectif iddo pam na ddilynodd ei wraig yn ôl i'r tŷ ar ôl iddi gael ei llosgi.
"Doedd yna ddim allwn i ei wneud," meddai.
Dywedodd nad oedd wedi ffonio ambiwlans oherwydd ei fod y credu fod ffrind oedd yn byw gyda'r cwpl, Gareth Davies, yn gwneud hynny.
"Roedd Gareth yn ffonio am ambiwlans, nag oedd e," meddai.
Tystiolaeth feddygol
Dywedodd ymgynghorydd ar losgiadau, yr Athro Steven Jeffery, yn ei dystiolaeth i'r llys ei fod o'r farn bod llygaid Mrs Bran wedi eu cau pan gafodd losgiadau i'w hwyneb.
Fe ofynnwyd i'r Athro Jeffery a oedd yn bosib fod yr anafiadau wedi eu hachosi wrth iddi syrthio i'r llawr gan dynnu peiriant coginio ar ei phen.
"Byddai digwyddiad o'r fath yn cyd-fynd â'i hanafiadau," meddai.
Ond dywedodd ei fod hefyd yn derbyn y gallai ei hanafiadau fod wedi cael eu hachosi gan rywun yn taflu olew drosti.
Wrth gael ei groesholi gofynnwyd iddo a oedd o'r farn fod y peiriant coginio wedi syrthio ar Mrs Bran.
"Does yna ddim toriadau na chleisiau i'w chorff i awgrymu hynny," meddai.
Gofynnodd Christopher Clee QC ar ran yr amddiffyniad: "Pe bai olew wedi ei daflu, fe fyddai'n debygol y byddai ef [y diffynnydd] wedi tasgu ei hunan gydag olew. Oes yna dystiolaeth o hynny?"
"Na," meddai Athro Jeffery.
Mae'r achos yn Llys y Goron Abertawe yn parhau.