Dim ymchwiliad i ymgeisydd Llafur dros wrth-Semitiaeth honedig
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur wedi dweud na fyddan nhw yn ymchwilio i ran honedig ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol mewn grŵp Facebook sydd wedi'i gysylltu â sylwadau gwrth-Semitaidd.
Dywed Llafur DU nad yw Ms Carroll wedi cael ei chyhuddo o wneud sylwadau gwrth-Semitaidd.
Cafodd ei hachos ei gyfeirio atynt gan y Blaid Lafur yng Nghymru wedi adroddiadau yn y Mail on Sunday.
Mae hi'n dweud nad yw wedi gweld y negeseuon cyfryngau cymdeithasol y cyfeirir atynt.
Dywed Ms Carroll, sy'n sefyll ar ran y Blaid Lafur yn sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y byddai wedi eu beirniadu yn syth petai wedi gweld y sylwadau.
Cyngor i aelodau
Honnir i'r grŵp Facebook, oedd ond yn weladwy i'w aelodau, gael ei sefydlu er mwyn rhoi cyngor i aelodau Llafur ar sut i amddiffyn eu hunain wrth iddyn nhw wynebu ymchwiliad disgyblu mewnol.
Dywedodd Ms Carroll: "Fe ymunais â'r grŵp ar adeg, pan oedd nifer o aelodau asgell chwith yn cael eu gwahardd o'r blaid, a hynny er mwyn eu hatal rhag pleidleisio yn yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid yn 2016 - ac am resymau mor fach ac aildrydar Caroline Lucas [cyn arweinydd y Gwyrddion.].
"Pan ddechreuodd y cynllwynio gwrth-Semitaidd fe wnes i adael y grŵp," meddai.
Roedd cyn-ymgeisydd y blaid Lafur ar gyfer Cyngor Peterborough, Alan Bull, hefyd yn ôl honiadau yn aelod o'r grŵp Facebook caëedig.
Fe wnaeth dynnu ei gais yn ôl ar ôl cyfaddef fod rhannu erthygl yn gwadu'r Holocost ar Facebook yn 2015ei yn "gamgymeriad".
Ychwanegodd Ms Carroll nad oedd hi wedi gweld "neges Facebook erchyll" Alan Bull, "gan nad oedd y negeseuon wedi'u ffurfio yn y grŵp" yr oedd hi'n rhan ohono.
"Rwyf wedi gwrthwynebu'n gyhoeddus ymddygiad gwrth-Semitaidd o fewn y blaid - gan gynnwys ymddygiad a oedd yn cynnwys sylwadau gwrth-Semitaidd geiriol tuag at Luciana Berger [cyn AS Llafur] ac rwyf wedi rhoi fy marn ar y rhai sy'n gwadu bod gwrth-Semitiaeth yn bodoli o fewn y blaid.
"Rwyf wedi cael fy mlocio gan gyfrifon gwrth-Semitaidd o ganlyniad," meddai.
Daeth Llafur Cymru i wybod am yr honiadau yn erbyn Maria Carroll ar ôl i'r Mail on Sunday ddod â'r peth i'w sylw nos Wener.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Mark Drakeford: "Wrth gwrs fy mod yn pryderu am yr adroddiadau a'r hyn wnaeth Maria Carroll.
"Fe wnaeth Llafur Cymru ymateb yn syth a chyfeirio'r mater at Uned Gyfreithiol a Llywodraethiant y Blaid Lafur Brydeinig er mwyn iddyn nhw ymchwilio.
"Rwyf wedi dweud yn gyson nad oes lle i wrth-Semitiaeth o fewn ein plaid yma yng Nghymru," meddai.
Ers hynny mae Llafur DU wedi dweud wrth BBC Cymru na fyddan nhw yn ymchwilio i Ms Carroll gan na wnaeth hi unrhyw sylwadau gwrth-Semitaidd.
Dywedodd llefarydd nad oedd y blaid yn ganolog wedi derbyn unrhyw cwynion am Ms Carroll.
Yr ymgeiswyr etholiadol eraill sy'n sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yw: Jonathan Edwards ar gyfer Plaid Cymru, Havard Hughes dros y Ceidwadwyr a Peter Prosser dros Blaid Brexit.