Tomas Francis i golli dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Tomas FrancisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tomas Francis ddioddef yr anaf i'w ysgwydd yn y gêm yn erbyn De Affrica

Bydd Tomas Francis yn colli dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2020 wedi iddo gael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.

Fe wnaeth y prop ddioddef yr anaf wrth i Gymru gael eu trechu gan Dde Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

Mae Francis, 27, wedi cael llawdriniaeth, gyda'i glwb, Caerwysg yn dweud ei fod "yn debygol o golli hyd at bedwar mis".

Fe fydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd ar 1 Chwefror 2020.

Daw'r newyddion am anaf Francis wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd Jonathan Davies a Rhys Patchell hefyd allan am fisoedd yn dilyn anafiadau a gawson nhw yng Nghwpan y Byd

Bydd prif hyfforddwr newydd y tîm cenedlaethol, Wayne Pivac yn cyhoeddi ei garfan gyntaf ddydd Mawrth, a hynny i herio'r Barbariaid yn y brifddinas ar 30 Tachwedd.