McNicholl a Halaholo yng ngharfan gyntaf Wayne Pivac
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr newydd Cymru, Wayne Pivac wedi cynnwys dau olwr o Seland Newydd - Johnny McNicholl a Willis Halaholo - yn ei garfan gyntaf.
Mae'r ddau yn gymwys i gynrychioli Cymru wedi iddyn nhw basio'r trothwy o fyw yng Nghymru ers dros dair blynedd yn ddiweddar.
Dydy'r capten, Alun Wyn Jones ddim yn y garfan i herio'r Barbariaid yng Nghaerdydd ar 30 Tachwedd oherwydd anaf.
Rhagflaenydd Pivac, Warren Gatland fydd rheolwr y Barbariaid ar gyfer y gêm.
Mae tri chwaraewr arall sydd heb gap yn y garfan, sef y chwaraewyr rheng-ôl Taine Basham a Shane Lewis-Hughes, a'r asgellwr Ashton Hewitt.
Mae 22 aelod o garfan Cwpan Rygbi'r Byd ymysg y 35 o chwaraewyr sydd wedi'u cynnwys, ond dydy'r rheiny sy'n chwarae yn Lloegr ddim yn gymwys ar gyfer y gêm am nad yw'n rhan o'r calendr rhyngwladol swyddogol.
Mae llu o enwau mawr wedi'u hanafu, gan gynnwys Jonathan Davies, George North, Rhys Patchell, Josh Navidi, Cory Hill, Tomas Francis a Gareth Anscombe.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr:
Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Rob Evans (Scarlets), Wyn Jones (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Leon Brown (Dreigiau), Samson Lee (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Bradley Davies (Gweilch), Seb Davies (Gleision), Taine Basham (Dreigiau), Ollie Griffiths (Dreigiau), Shane Lewis-Hughes (Gleision), Ross Moriarty (Dreigiau), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Aaron Wainwright (Dreigiau).
Olwyr:
Aled Davies (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Tomos Williams (Gleision), Sam Davies (Dreigiau), Jarrod Evans (Gleision), Willis Halaholo (Gleision), Hadleigh Parkes (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Owen Lane (Gleision), Josh Adams (Gleision), Steff Evans (Scarlets), Ashton Hewitt (Dreigiau), Johnny McNicholl (Scarlets), Hallam Amos (Gleision), Leigh Halfpenny (Scarlets).