Cynlluniau i ddatblygu safle Ysbyty Gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Dinbych
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych wedi bod yn darged i fandaliaid ers iddo gau yn 1995

Mae cynlluniau uchelgeisiol wedi eu datgelu i ddatblygu safle hanesyddol Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Bwriad cwmni Jones Bros ydy codi 300 o gartrefi newydd ac adnewyddu rhan ganolog yr hen adeilad gafodd ei godi yn 1848 yn ystod yr Oes Fictoriaidd.

Ar ei anterth roedd yr ysbty yn cartrefu 1500 o gleifion ac yn cyflogi 700 o staff. Mae'r safle wedi bod yn wag ers i'r ysbyty gau yn 1995.

Mae'r cwmni o Ruthun wedi dechrau proses ymgynghori cyn iddyn nhw roi cais cynllunio ffurfiol gerbron Cyngor Sir Ddinbych. Yn ogystal â thai newydd mae'r cynlluniau yn cynnwys siopau, bwytai a champfa i'r bobl fydd y byw yno.

Mae'n debyg y byddai'r datblygiad yn cymryd 10 mlynedd i'w gwblhau.

'Hwb i'r economi leol'

Dywedodd Helen Morgan o Jones Bros: "Ein bwriad ydy creu datblygiad sy'n cydweddu i'r ardal ac yn adnewyddu'r cysyllltiad allweddol rhwng y safle hanesyddol a'r dref.

"Rydyn ni yn amcangyfri y bydd y prosiect yn chwistrellu £75m i'r economi leol ac yn creu swyddi ar y safle ac yn y gymuned ehangach."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o staff Jones Bros ar safle hanesyddol Ysbyty Gogledd Cymru

Mae'r cwmni yn cydweithio dan drwydded gyda'r perchnogion - Cyngor Sir Ddinbych - i archwilio sut i adfywio'r safle.

Dywedodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol dros yr Economi: "Rydyn ni yn falch bod Jones Bros wedi cyrraedd y cam ble gallen nhw ddechrau ar y broses ymgynghori cyhoeddus cyn i'r cais cynllunio ffurfiol gael ei gyflwyno."

Fe fydd cyfle i'r gymuned weld a thrafod y cynlluniau gyda chynrychiolwyr Jones Bros yn Llyfrgell Dinbych ar 2 Rhagfyr.