Atal cynghorydd am bedwar mis am roi slap pen-ôl
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr sir Powys wedi cael ei ddiarddel am bedwar mis ar ôl cyfaddef ei fod wedi rhoi slap ar ben-ôl cynghorydd arall.
Aeth y Cynghorydd Edwin Roderick ati wedi hynny i geisio bygwth y Cynghorydd Emily Durrant i beidio â chyflwyno cwyn yn ei erbyn.
Mewn gwrandawiad Panel Dyfarnu Cymru ddydd Llun fe wnaeth Mr Roderick gyfaddef ei fod wedi torri cod ymddygiad y cyngor.
Mae wedi "ymddiheuro'n ddiffuant" gan ychwanegu "fydd dim byd fel hyn yn digwydd eto".
Dywedodd y Cynghorydd Durrant ei bod yn derbyn yr ymddiheuriad ac yn falch bod y broses wedi dod i ben.
Bygythiadau 'debyg i flacmel'
Clywodd y panel bod Mr Roderick "mewn panig" pan ofynnodd i Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Melanie Doel, drefnu cyfarfod gyda'r achwynydd gan ddweud fod ganddo wybodaeth amdani.
Wrth grynhoi, dywedodd cadeirydd y panel, John Livesey, bod y Cynghorydd Roderick wedi ymddwyn mewn ffordd "oedd yn annerbyniol ers sbel mewn bywyd cyhoeddus", gan ddiraddio a chywilyddio'r achwynydd.
Dywedodd "y byddai rhai'n gweld [y bygythiadau] yn debyg i flacmel" a bod Mr Roderick yn "naïf i feddwl na fyddai unrhyw gamau'n cael eu cymryd" yn sgil difrifoldeb yr ymddygiad.
Bydd y Cynghorydd Roderick hefyd yn cael ei atal o'i rôl ar fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae disgwyl hefyd iddo gael hyfforddiant pellach mewn cysylltiad â'r cod ymddygiad.
'Ddim yn berson soffistigedig'
Wrth annerch y gwrandawiad fel tyst i gymeriad Mr Roderick, dywedodd y Cynghorydd David Daycock ei fod yn "ffermwr garw, oedd heb arfer â ffurfioldeb a lledneisrwydd cyfarfodydd pwyllgor".
Dywedodd y Cynghorydd Timothy Van-Rees bod yr achos yn "anghyson â'i gymeriad" ond "rhaid dweud nad yw'r Cynghorydd Roderick yn berson soffistigedig".
Wedi'r gwrandawiad, dywedodd y Cynghorydd Roderick: "Rwy'n parchu penderfyniad y tribiwnlys yn llwyr ac rwy'n teimlo y cefais wrandawiad teg.
"Rwy'n ymddiheuro eto i bawb sydd wedi'u heffeithio gan yr achos, yn enwedig yr achwynydd.
"Rwy'n wir edifar ynghylch y digwyddiad a byddaf yn sicrhau na fydd dim byd fel hyn yn digwydd eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019