Cynghorydd Powys 'wedi fy nhrin fel anifail fferm'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd gafodd ei slapio ar ei phen-ôl gan gydweithiwr gwrywaidd yn teimlo "ei bod wedi ei thrin fel anifail fferm".
Roedd Emily Durrant, 34, mewn cyfarfod yn 2017 pan gafodd ei slapio gan Edwin Roderick.
Dywedodd wrth BBC Wales Live ei fod yn rhan o broblem ehangach gyda rhywiaeth o fewn llywodraeth leol.
Dywedodd Cyngor Powys bod rhaid i'w holl gynghorwyr fynychu hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.
'Wedi fy mychanu'
Cafodd Mr Roderick ei wahardd fel cynghorydd sir ym Mhowys am bedwar mis, ar ôl i banel ganfod ei fod wedi torri cod ymddygiad y cyngor.
Clywodd y panel bod Mr Roderick wedi ceisio bygwth Ms Durrant i beidio â chyflwyno cwyn yn ei erbyn.
Dywedodd Ms Durrant, cynghorydd i'r Blaid Werdd a mam i ddau: "Roeddwn i'n teimlo wedi fy mychanu a'm diraddio.
"Fel dynes dwi wedi hen arfer a rhywiaeth o ddydd i ddydd, ond do'n i wir ddim yn ei ddisgwyl mewn swydd gyhoeddus."
Wrth grynhoi'r achos i'r panel, dywedodd John Livesey bod Mr Roderick wedi ymddwyn mewn ffordd "oedd yn annerbyniol ers sbel mewn bywyd cyhoeddus".
Wedi'r gwrandawiad, dywedodd Mr Roderick: "Rwy'n wir edifar ynghylch y digwyddiad a byddaf yn sicrhau na fydd dim byd fel hyn yn digwydd eto."
Dywedodd Ms Durrant ei bod yn derbyn yr ymddiheuriad, ond ei fod yn rhan o broblem ehangach.
"Dwi'n meddwl bod problem o fewn llywodraeth leol gyda rhywiaeth," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn unigryw i Bowys. Dwi'n meddwl ei fod yn broblem cynrychiolaeth."
Galwodd Ms Durrant am newid agweddau, a dywedodd bod yr hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei weld fel "ychydig bach o wastraff amser".
Ym Mhowys mae 31.5% o gynghorwyr yn fenywod.
O'r 1,250 o gynghorwyr yng Nghymru, mae 352 yn fenywod - 28.2%.
Mae llai na 15% o gynghorwyr yn fenywod mewn pump awdurdod lleol yng Nghymru - Blaenau Gwent, Ceredigion, Merthyr Tudful, Penfro ac Ynys Môn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru na ddylai menywod wynebu aflonyddu mewn cymdeithas fodern, "ac yn sicr nid mewn cynghorau na chyrff cyhoeddus".
Ychwanegodd y llefarydd nad yw'r gymdeithas yn goddef y fath ymddygiad, a bod "mesurau llym" mewn grym i ddelio gyda digwyddiadau o'r fath.
Wales Live, BBC One Wales am 22:35 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019