Gwellhad 'gwyrthol' babi wedi aduniad â'i efaill

  • Cyhoeddwyd
Deiniol a Dylan ZimunyaFfynhonnell y llun, Mercury Press & Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Deiniol a Dylan mewn ysbytai gwahanol am 14 wythnos wedi eu genedigaeth

Mae mam o Wrecsam wedi disgrifio'r gwellhad yng nghyflwr ei mab bach ar ôl iddo gael ei aduno mewn ysbyty â'i efail fel "gwyrth".

Cafodd Dylan a Deiniol Zimunya eu geni 15 wythnos yn gynnar y llynedd ond bu'n rhaid trin y ddau mewn ysbytai gwahanol, 60 milltir ar wahân, gan fod Deiniol angen mwy o ofal na'i frawd.

Am 14 wythnos wedi'r enedigaeth roedd Deiniol mewn uned arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Bolton ar beiriant i'w helpu i anadlu, tra bod Dylan yn ddigon da i ddychwelyd i Wrecsam.

Ond yn ôl eu mam, Hannah, fe wnaeth cyflwr Deiniol wella'n aruthrol ddwy awr yn unig wedi i feddygon drefnu i Dylan dreulio ychydig funudau yn yr un crud â'i frawd am y tro cyntaf ers eu genedigaeth, gan eu bod yn ofni bod perygl i Deiniol farw.

"Pan wnes i ffonio'n hwyrach ymlaen y noson yna i ofyn sut roedd Deiniol, dywedon nhw wrtha'i bod y cymorth ocsigen wedi ei haneru," meddai.

"Roedd yn anhygoel. Roedd Dylan, rywsut, dim ond trwy fod yna, wedi helpu Deiniol, wedi gwneud o'n well.

"Do'n i ddim yn disgwyl hynny o gwbwl, na'r nyrsys a'r doctoriaid.

'Achub ei fywyd hefo cwtsh'

"Y diwrnod nesaf roedd ei lefelau ocsigen wedi codi'n ôl i 100% [ond] roedd yna arwyddion o ddirywiad eto, felly awgrymodd y nyrsys i ddod â Dylan yn ôl am gwtsh arall.

"O fewn dau ddiwrnod, roedd Deiniol oddi ar y peiriant anadlu yn gyfan gwbwl. Roedd wir yn wyrth.

"Fe wnaeth o achub ei fywyd hefo cwtsh. Roedd yn wych i'w weld ac yn profi i ni gyd dylen nhw ddim fod wedi cael eu gwahanu."

"Er eu bod heb fod gyda'i gilydd am 14 wythnos ers y diwrnod gawson nhw eu geni, gynted ac roedden nhw gyda'i gilydd fe wnaeth y cwlwm rhyngddyn nhw achub bywyd Deiniol."

Ffynhonnell y llun, Mercury Press & Media
Disgrifiad o’r llun,

Trefnwyd i Dylan deithio o Wrecsam i Bolton gan fod meddygon yn dechrau ofni'r gwaethaf yn achos Deiniol

A hwythau ond yn pwyso dau bwys, a phwys a naw owns wrth gael eu geni, doedd ysgyfaint Dylan a Deiniol heb ddatblygu'n gyflawn.

Cafodd y ddau eu trosglwyddo i'r ysbyty yn Bolton o fewn 12 awr a'u cysylltu â pheiriannau anadlu ac fe wnaeth Dylan gryfhau gymaint nes bod modd ei symud yn ôl i Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Roedd Hannah a'i gŵr, Xavi, 40, yn gyrru o Wrecsam i Bolton ac yn ôl bob dydd i ymweld â'r ddau blentyn, ond doedd dim arwyddion bod Deiniol yn gwella.

Fe drefnwyd iddyn nhw fynd â Dylan i Bolton fis Rhagfyr diwethaf wedi i feddygon ddechrau ofni'r gwaethaf yn achos Deiniol.

Fe dreuliodd y ddau bum munud yn unig yn yr un cryd, ac fe wnaeth cyflwr Deiniol sefydlogi ddigon y noson honno i haneru lefel yr ocsigen oedd yn cael ei roi iddo.

Cafodd ail aduniad ei drefnu cyn bod modd datgysylltu Deiniol o'r peiriant anadlu yn gyfan gwbwl.

'Y peth cywir i wneud'

Treuliodd y ddau ddeufis yn Ysbyty Brenhinol Bolton cyn i Dylan adael ym mis Ionawr a Deiniol ym mis Ebrill.

Bu'n rhaid i'r ddau dreulio saith mis mewn ysbyty cyn cael mynd adref at weddill y teulu - TJ, sy'n wyth oed, Lily, sy'n chwech, a Thandi, sy'n dair oed.

Mae'r efeilliaid newydd gael eu pen-blwydd cyntaf, ond mae Deiniol yn dal yn gorfod cael cymorth i anadlu trwy roi ocsigen iddo yn ei gartref 24 awr y dydd.

Dywedodd Hannah: "Does dim geiriau i egluro pa mor hapus ydw i fod y ddau wedi dathlu eu pen-blwyddi cyntaf, achos roedd yna gyfnod pan ddoedden ni ddim y gwybod a fyddai'r ddau yn cael y cyfle i wneud hynny."

Ychwanegodd pa mor ddiolchgar ydy'r teulu i staff yr ysbytai yn Wrecsam a Bolton, gan ddisgrifio'r staff meddygon fel "aelodau estynedig o'r teulu".

Dywedodd Cath Bainbridge, metron uned gofal newydd-enedigol Ysbyty Brenhinol Bolton: "Petai yna rywbeth gallwn ni wneud fel bod teulu'n cael profiad mwy gobeithiol, rydym yn ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i hynny ddigwydd.

"Yn achos y bechgyn bach hardd yma, [trefnu'r aduniad] yn ddiamau oedd y peth cywir i wneud."