'Myfyrwraig wedi adnabod sepsis cyn marwolaeth ei mam'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth myfyrwraig meddygaeth adnabod symptomau sepsis oriau cyn i'r salwch ladd ei mam, mae cwest wedi clywed.
Bu Samantha Brousas, 49 o Gresffordd ger Wrecsam, yn aros mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam am dros dair awr cyn ei marwolaeth yn ddiweddarach.
Dywedodd ei merch, Sophie, oedd yn fyfyriwr meddygol yn ei phedwaredd flwyddyn ar y pryd, ei bod wedi cwrdd â'i mam yn yr ambiwlans ac adnabod mai sepsis oedd ganddi.
Clywodd y cwest nad oedd gan y parafeddygon yr hawl i roi gwrthfiotigau iddi tra roedd hi dal yn yr ambiwlans yn aros am le yn yr ysbyty.
Mae'r cwest i farwolaeth Ms Brousas yn canolbwyntio ar y trefniadau o amgylch ei mynediad i'r ysbyty, yn cynnwys y broses o'i throsglwyddo rhwng Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gweithwyr yr ysbyty.
'Daeth neb o'r ysbyty i'w gweld hi'
Bu farw Ms Brousas ar 23 Chwefror y llynedd, 48 awr ar ôl mynd mewn i'r ysbyty.
Dywedodd ei merch bod parafeddygon wedi dangos canlyniadau profion meddygol ei mam iddi yn yr ambiwlans: "Dywedais 'Ai sepsis ydy hwn felly?'.
"Oni ddylai hi fod yn yr ysbyty ac yn cael gwrthfiotigau o fewn yr awr?"
Dywedodd wrth y cwest iddi ofyn os all y parafeddygon roi gwrthfiotigau i'w mam.
"Ond dywedodd y parafeddygon nad oedden nhw'n gallu. Cyn belled a dwi'n gwybod daeth neb allan o'r ysbyty i'w gweld hi yn yr ambiwlans."
Disgrifiodd partner Ms Brousas o wyth mlynedd, Simon Goacher, bod gan y ddau ohonyn nhw annwyd dros gyfnod y flwyddyn newydd, ond nad oedd hi wedi gwella.
Dywedodd: "Cafodd hi anadlwr ventolin ond doedd o ddim yn ymddangos bod o'n 'neud lot i helpu."
Dirywiodd cyflwr Ms Brousas o 19 Chwefror, a bu'n rhaid iddi golli gwaith ar ôl dechrau swydd newydd ond wythnos yn gynt.
'Ddim yn risg uchel'
Mae'r cwest wedi clywed gan nifer o aelodau staff meddygol oedd wedi gweld neu siarad â Ms Brousas yn y dyddiau cyn iddi gael ei chludo i'r ysbyty.
Dywedodd nyrs ym Meddygfa Strathmore, Wrecsam, Rebecca McNay bod ei symptomau heb ysgogi rhybudd sepsis awtomatig ar system gyfrifiadurol y GIG.
"Doedd hi ddim yn y categori risg uchel ar gyfer sepsis," meddai.
Clywodd y gwrandawiad hefyd bod Ms Brousas wedi gofyn i feddyg teulu yn y feddygfa, ddiwrnod cyn mynd i'r ysbyty, os roedd hi'n mynd i farw.
Roedd Dr Geetha Bala wedi ateb nag oedd hi am farw, a'i bod yn meddwl mai gastro-enteritis feirol - llid y stumog a'r coluddion - oedd arni.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.