Dau Gymro yn euog o ddwyn trysor Llychlynnaidd gwerth £3m

  • Cyhoeddwyd
TrysorFfynhonnell y llun, Yr Amgueddfa Brydeinig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mwyafrif o'r darnau arian gafodd eu canfod bellach ar goll

Mae dau ddyn o Gymru wedi eu cael yn euog o ddwyn gwerth £3m o drysor Llychlynnaidd ar ôl ei ganfod mewn cae.

Fe wnaeth George Powell o Gasnewydd a Layton Davies o Bontypridd ganfod tua 300 o ddarnau arian ar ôl eu cloddio yn ardal Eye, Sir Henffordd yn 2015.

Ni wnaethon nhw gyhoeddi eu bod wedi canfod y trysor 1,100 oed, gan benderfynu ei werthu yn hytrach.

Cafwyd y ddau yn euog o ladrad a chuddio'r darganfyddiad yn Llys y Goron Caerwrangon ddydd Iau.

Cafodd dau werthwr arian - Paul Wells o Gaerdydd a Simon Wicks o Hailsham - hefyd eu canfod yn euog o guddio'r darganfyddiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gorllewin Mersia
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Layton Davies, George Powell, Paul Wells a Simon Wicks yn euog yn Llys y Goron Caerwrangon

Dim ond 31 o ddarnau arian - gwerth rhwng £10,000 a £50,000 - ac ambell ddarn o emwaith sydd wedi'i adfer, ac mae'r mwyafrif helaeth yn parhau ar goll.

Yn ystod yr achos roedd Powell, 38, a Davies, 51, wedi gwadu anwybyddu'r Ddeddf Trysorau yn fwriadol, sy'n datgan bod yn rhaid cyhoeddi canfyddiadau o'r math yma.

Pan wnaethon nhw ganfod y trysor ym mis Mehefin 2015 ni wnaethon nhw ddweud wrth y ffermwr oedd yn berchen ar y tir, ac yn hytrach fe aethon nhw at arbenigwyr i geisio canfod gwerth yr eitemau.

Fis yn ddiweddarach fe wnaethon nhw gysylltu ag Amgueddfa Cymru, ond gan ddweud eu bod wedi canfod dau ddarn arian a thair eitem o emwaith yn unig.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gorllewin Mersia
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â'r darnau arian cafodd modrwy a darnau arall o emwaith eu canfod

Roedd y ddau yn mynnu mai sïon yn unig oedd eu bod wedi canfod 300 o ddarnau arian, ond fe wnaeth yr heddlu lwyddo i ganfod lluniau oedd wedi'u dileu oddi ar ffôn Davies oedd yn dangos y trysor yn ei gyfanrwydd.

Clywodd y llys bod y ddau wedi bod yn cwrdd â Wells a Wicks er mwyn rhyddhau'r darnau arian i'r farchnad.

Bydd y dynion yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.