Dynes â sepsis yn 'debygol o farw' cyn cyrraedd yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest ei bod yn debygol y byddai dynes wedi marw hyd yn oed gyda thriniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Bu farw Samantha Brousas, 49 oed o ardal Gresffordd, deuddydd ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty ar 21 Chwefror 2018.
Mae'r cwest eisoes wedi clywed iddi gael ei chadw mewn ambiwlans tu allan i'r ysbyty am dros ddwy awr ar ôl cyrraedd, cyn cael ei symud i'r uned frys.
Bu farw llai na 48 awr wedi hynny ar 23 Chwefror.
Ond clywodd y cwest ddydd Gwener gan feddyg ymgynghorol a ddywedodd bod Ms Brousas - pan gyrhaeddodd yr ysbyty yn y lle cyntaf ar brynhawn 21 Chwefror - yn debygol o farw.
Dywedodd yr Athro David Solomon Almond, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl - a ysgrifennodd adroddiad ar farwolaeth Ms Brousas ar gais y crwner - fod y siawns ohoni'n marw ar 21 Chwefror yn 51%.
"Yn anffodus ac yn drist iawn, roedd Sam i fod i farw beth bynnag oedd yr ymyrraeth oherwydd ei bod mor ofnadwy o sâl ar yr adeg hynny," meddai.
Dywedodd fod Ms Brousas wedi marw oherwydd methiant aml-organ wedi'i yrru gan sepsis.
Petai hi wedi cael ei thrin ar fore 21 Chwefror, "mae'n debygol y byddai wedi goroesi", meddai.
'System mewn argyfwng'
Yn gynharach ddydd Gwener, fe glywodd y cwest fod yr uned frys o dan "straen aruthrol" pan gyrhaeddodd Ms Brousas yr ysbyty.
Dywedodd Dr Glyn Roberts, rheolwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod 46 o welyau ychwanegol wedi'u hagor yn yr ysbyty ond fod pob rhan o'r uned frys yn llawn.
"Doedd dim modd gallu symud gwaith allan o Wrecsam i ysbyty arall yng ngogledd Cymru," meddai.
Dywedodd y crwner fod ymchwiliad mewnol wedi disgrifio "system mewn argyfwng".
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019