Cyn-gapten RGC yn pledio'n euog i ymosodiad ar heddwas
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten Rygbi Gogledd Cymru wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol ar ôl ymosod ar heddwas.
Roedd Maredydd Francis, 25, wedi cael ei gyhuddo o afael yn y plismon rhwng ei goesau a'i daflu mewn "tacl rygbi".
Fe wnaeth Llys y Goron Yr Wyddgrug hefyd glywed ei fod wedi cicio a tharo Richard Priamo yn y digwyddiad ar 3 Awst, a bod y swyddog wedi gorfod cael ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth.
Yn gynharach roedd Francis, sydd o Southsea, Wrecsam, wedi pledio'n ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Fe ymddangosodd Francis yn y llys ddydd Gwener drwy gyswllt fideo o Garchar Altcourse yn Lerpwl, a bydd yn aros yn y ddalfa nes ei ddedfryd.
Gwrthododd y barnwr Niclas Parry gais bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Phillip Tully, am gael ei ddedfrydu ar yr un diwrnod os yn bosib.
Ond dywedodd y Barnwr Parry y byddai cydweithrediad Francis, a'i ble o euogrwydd, yn cael eu hystyried pan fyddai'r ddedfryd yn cael ei phasio.
Ychwanegodd bod rhaid hefyd caniatáu cyfle i Mr Priamo hefyd ymddangos gerbron y llys i roi datganiad petai'n dymuno.
Ym mis Hydref 2018 fe gafodd Francis ei wahardd o rygbi am bedair blynedd am ddefnyddio cyffuriau gwella perfformiad a sylweddau eraill.