Cwpan Her Ewrop: Toulon 17-16 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Rob EvansFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwydodd Toulon i dorri calonnau'r Scarlets yn eu gornest yng Nghwpan Her Ewrop yn dilyn cais a throsiad yn eiliadau olaf y gêm.

Roedd y Cymry wedi brwydro'n arwrol i fynd ar y blaen yn yr ail hanner, a hynny er gwaethaf cerdyn coch i'r clo Tevita Ratuva.

Ond doedd hi ddim i fod, gyda Charles Ollivon yn croesi am y cais hollbwysig a'r maswr Anthony Belleau yn llwyddo o drwch blewyn gyda'r trosiad wrth iddo daro'r postyn ar y ffordd drosto.

Fe aeth Toulon ar y blaen yn y 10 munud cyntaf, wrth i'r asgellwr Gervais Cordin groesi am gais, a Belleau yn cicio'r pwyntiau ychwanegol.

Ond roedd y Scarlets yn gyfartal funudau'n ddiweddarach wrth i Ryan Lamb drosi cais Johnny McNicholl, sydd newydd gael ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf.

Ciciodd Belleau dri phwynt i roi Toulon ar y blaen unwaith eto o 10-7, cyn i Ratuva weld y cerdyn coch ar ddiwedd yr hanner am dacl beryglus yn y ryc.

Er gwaethaf y ffaith eu bod nhw un dyn yn brin, brwydrodd y Scarlets yn ôl yn yr ail hanner ac roedden nhw'n gyfartal unwaith eto yn dilyn cic gosb gan Lamb.

Methodd Belleau ag ymgais at y pyst, cyn i Dan Evans y tro hwn lwyddo gydag ymgais am dri phwynt gyda llai na chwarter awr i fynd.

Tri munud yn ddiweddarach cafodd y fantais ei hymestyn i chwe phwynt, gydag Evans y tro hwn yn llwyddo gyda gôl adlam.

Ond yn dilyn pwysau hwyr ar linell gais y Scarlets o'r sgrym ac o'r lein, llwyddodd i Ollivon dirio a rhoi'r cyfle i Belleau gipio'r fuddugoliaeth gyda chic olaf y gêm.