Cyhuddo dau arall yn dilyn llofruddiaeth Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Shafiul Islam ei ganfod yn ardal Shaftsbury, Casnewydd
Mae dau berson arall wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth wrth i ymchwiliad barhau i farwolaeth dyn yng Nghasnewydd.
Bu farw Shafiul Islam, 22 oed o Gasnewydd, yn Ysbyty Brenhinol Gwent o ganlyniad i'w anafiadau.
Roedd yr heddlu wedi ei ganfod yn anymwybodol mewn tŷ yn ardal Shaftesbury yn y ddinas nos Iau, 14 Tachwedd.
Ddydd Iau cafodd dyn 22 oed ei gyhuddo o lofruddio Mr Islam, ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd cyn cael ei gadw yn y ddalfa.
Bellach mae Heddlu Gwent yn dweud bod dau berson arall - dyn 32 o Gasnewydd a dyn 40 oed o Gaerdydd - hefyd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth, ac o gynllwynio i ladrata.
Mae'r ddau wedi cael eu cadw yn y ddalfa nes iddynt hwythau ymddangos gerbron ynadon, ac mae teulu Mr Islam yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion heddlu.