Llofruddiaeth Casnewydd: Dau ddyn yn mynd o flaen llys

  • Cyhoeddwyd
Shaftsbury, CasnewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Shafiul Islam ei ganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben yn ardal Shaftsbury, Casnewydd

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 22 oed.

Cafwyd hyd i Shafiul Islam gydag anafiadau difrifol mewn tŷ yn ardal Shaftesbury yn y ddinas nos Iau, 14 Tachwedd a bu farw o'i anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Cafodd Perrie Dunwell, 32, o Gasnewydd ac Euan Peters, 40, o Gaerdydd eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw fynd o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Siaradodd y ddau, sydd hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata, ond i gadarnhau eu henwau a'u cyfeiriadau.

Mae dyn arall, Conlan Dunnion, 22, o ardal Maesglas Casnewydd, eisoes yn yn y ddalfa ar ôl ymddangos mewn llys ddydd Iau wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.