Disgyblion yn dychwelyd wedi pryder am ollyngiad nwy
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i hyd at 600 o ddisgyblion Ysgol Penweddig, Aberystwyth adael yr adeilad am gyfnod bore Llun i reolwyr ymateb i "ollyngiad nwy posib".
Mewn neges at rieni, warcheidwaid a llywodraethwyr, dywedodd yr ysgol bod disgyblion wedi "ymgilio i gyfleusterau fel mesur rhagofalus".
Yn ddiweddarach fe gafon neges ei hanfon yn dweud fod contractwyr wedi cynnal profion oedd yn "cadarnhau fod yr adeilad a'r ystafelloedd dysgu yn ddiogel.
"O ganlyniad, bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r adeilad ac fe fydd y gwersi'n parhau.
"Bydd y noson rieni i bl 12 a bl 13 hefyd yn parhau heno."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Mae gan bob ysgol yng Ngheredigion gynllun brys wrth gefn, ble gall disgyblion ddefnyddio adnoddau cyfagos petai angen.
"Fel rhan o'r trefniadau hyn, cafodd disgyblion eu symud i Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Plascrug a Chlwb Rygbi Aberystwyth."