Cyn-athro dan amheuaeth o droseddau rhyw wedi lladd ei hun

  • Cyhoeddwyd
Clive Hally
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Clive Hally, cyn-athro celf, yn farw mewn cronfa ddŵr ger Maesteg ym mis Mai

Clywodd cwest fod cyn-athro ysgol o Faesteg oedd yn rhan o ymchwiliad i droseddau rhyw hanesyddol honedig wedi lladd ei hun.

Cafwyd hyd i gorff Clive Hally, 67 oed, yng nghronfa Cwmwernderi ger Maesteg ar 18 Mai.

Cafodd ei arestio yn gynharach y flwyddyn ar amheuaeth o ymosod yn anweddus wedi honiadau o gam-drin rhyw hanesyddol yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd ar fechnïaeth ac i fod i ymweld â gorsaf yr heddlu pan gafwyd hyd i'w gorff.

Bu'n dysgu yn yr ysgol am 36 o flynyddoedd rhwng 1975 a 2011.

Fe wnaeth dau ddyn, sydd nawr yn 48 a 50 oed, honni iddo ymosod yn rhywiol arnynt yn yr ysgol yn y 1980au.

Roedd un o'r dynion yn 13 oed ar y pryd.

Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn o hunanladdiad.